Rydyn ni’n penodi

Mehefin 8, 2021

Swyddog Cymunedol a Chyfathrebu

Rydym yn chwilio am swyddog cymunedol a chyfathrebu brwdfrydig, sy’n gallu defnyddio eu sgiliau i gefnogi cymunedau ar lawr gwlad yng Nghymru, creu a darparu gweithgarwch cyfathrebu dwyieithog diddorol, a datblygu a dosbarthu adnoddau.

Byddai’r rôl hon yn addas i chwaraewr tîm cyfeillgar a phrofiadol, sydd wedi ymrwymo i werthoedd Cymru Masnach Deg, sy’n mwynhau amrywiaeth yn eu swydd, ac sy’n gallu blaenoriaethu a threfnu eu llwyth gwaith yn effeithiol. Os ydych chi’n angerddol am gyfiawnder a chydraddoldeb byd-eang, ac eisiau annog pobl i ymgyrchu dros newid a mynd gam ymhellach dros Fasnach Deg, yna gallai hon fod yr union swydd i chi.

Mae Cymru Masnach Deg yn gweithio i gefnogi, tyfu a hyrwyddo’r mudiad Masnach Deg yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw creu byd cyfartal, gan ddefnyddio ein gwerthoedd, sef cefnogi, cydweithredu a grymuso. Dewch i ymuno â sefydliad cyfeillgar, Masnach Deg.

Mae Cymru Masnach Deg wedi’i sefydlu fel cwmni cyfyngedig drwy warant, gyda statws nid er elw. Rydym yn gweithio fel rhan o bartneriaeth Hub Cymru Africa (HCA), ac rydym wedi ein lleoli yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd. Ar hyn o bryd, mae Hub Cymru Africa yn cael ei ariannu gan raglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda Hub Cymru Africa, i sicrhau bod y sector mor effeithiol â phosibl.

Sut i wneud cais

Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol, yn esbonio sut rydych yn bodloni‘r manylebau person, a pham rydych chi eisiau gweithio i Cymru Masnach Deg, drwy e-bost at aileen@cymrumasnachdeg.org.uk erbyn hanner dydd ar 28 Mehefin. Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar 6/7 Gorffennaf.

Disgrifiad o’r swydd a manyleb person:

I weld sut rydym yn defnyddio eich data, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd.