Ein cyfweliad gyda Repair Cafe Wales

Hydref 28, 2021
Fair Trade Wales / Cymru Masnach Deg

Gwnaeth y blog yma ymddangos ar wefan Repair Cafe Wales 

Yn parhau ein cyfres o gyfweliadau sy’n cysylltu â sefydliadau eraill yng Nghymru sy’n rhannu ein gwerthoedd craidd o leihau gwastraff, rhannu sgiliau a chydlyniant cymunedol, roeddwn yn falch iawn i gwrdd ag Aileen Burmeister, Pennaeth Cymru Masnach Deg.

Daeth Cymru’n Genedl Masnach Deg yn 2008 gyda ffocws ar gefnogi, datblygu a hyrwyddo’r symudiad Masnach Deg yng Nghymru. Roedd diddordeb penodol gennyf yn ei waith oherwydd roeddwn wedi mynychu’r digwyddiad “Coffee, Climate and the Consumer – Paned, Planed a Phrynwyr” yr wythnos flaenorol, pan wnaeth tri gwestai hynod ddiddorol, gan gynnwys tyfwr coffi Masnach Deg o Wganda, siarad am eu perthynas â choffi.

Ymhell cyn i’r term “codi’r gwastad” ddod yn hashnod gwleidyddol, gwnaeth Aileen ymgyrchu yn erbyn anghydraddoldeb byd-eang ac astudio ei hanes a’r rhesymau dros pam mae’n parhau. Ar ôl codi ymwybyddiaeth drwy weithio mewn ysgolion a thros elusennau, dechreuodd Aileen weithio ym Masnach Deg chwe blynedd yn ôl. Oherwydd mai un o’n nodau allweddol yn RCW yw trwsio pethau yn hytrach na’u taflu, dechreuais drwy ofyn i Aileen sut mae Cymru Masnach Deg’n helpu i leihau gwastraff:

“Mae’r symudiad Masnach Deg yn hyrwyddo lleihau gwastraff drwy gadwyni cyflenwi araf fel ffasiwn araf. Drwy bwysleisio sut gall eitemau o safon bara’n hwy a bod modd eu trwsio’n hawdd, mae modd lleihau gwastraff. Y broblem gyda chadwyni cyflenwi cyflym yw dros amser gallant gael eu gorfodi ar weithwyr, sy’n gallu cael eu cyflogi a’u diswyddo’n gyflym i fodloni galwadau tymor byr. Rydym yn gofyn i brynwyr brynu dillad ail-law os oes modd, ond os ydynt yn prynu pethau newydd, eu bod yn prynu nwyddau Masnach Deg.

Rydym yn cefnogi cynnyrch megis Fairphone sydd â thegwch wrth eu gwraidd. Mae ethos y cwmni’n cynnwys y gadwyn gyflenwi gyfan gan gynnwys gwastraff diwedd bywyd y cynnyrch. Caiff y cydrannau eu canfod mewn ffordd foesegol ac mae’r metelau a ddefnyddir yn rhydd rhag gwrthdaro; mae’r arferion gwaith yn deg a phan fydd rhan yn methu, megis y sgrin, gall gael ei disodli’n hawdd. Mae hefyd yn hawdd uwchraddio nodweddion megis y camera ar y ffôn yn hytrach na phrynu ffôn newydd.”

Yn RCW, rydym yn cytuno’n llwyr â gweledigaeth Masnach Deg. Mae ein gwirfoddolwyr sy’n trwsio yn hapus i geisio trwsio eitemau, gan gynnwys ffonau ac offer trydanol eraill, ond yn aml iawn mae trwsio’n rhy anodd oherwydd nad yw llawer o gynnyrch wedi cael eu creu i bara. Ymddengys fod Fairphone yn syniad gwych a byddai’n gwneud trwsio llawer yn haws.

Nid yn unig y mae’r rheiny sy’n trwsio’n ceisio trwsio eitemau sydd wedi torri neu sydd wedi difrodi gan gynnwys dillad, ond maent hefyd yn rhannu eu sgiliau gyda phobl eraill sy’n trwsio ac aelodau’r cyhoedd sy’n dod â’u heitemau atom. Dechreuais feddwl os oedd Cymru Masnach Deg’n rhannu sgiliau neu wybodaeth hefyd:

“Mae Masnach Deg yn helpu i gynnal crefftau a sgiliau crefftwyr mewn gwledydd megis argraffu bloc a gwehyddu jiwt. Yng Nghymru Masnach Deg, rydym yn cefnogi ac yn hyrwyddo’r symudiad Masnach Deg ac mae gennym oddeutu 30 o grwpiau gweithredol sy’n rhannu eu gwybodaeth. Rydym yn cwrdd bob chwarter ac yn rhannu syniadau ac yn chwilio am ddatrysiadau. Mae Cymru Masnach Deg hefyd yn cydweithio gyda Hwb Cymru Affrica wrth hyfforddi a mentora”.

Gwnes i hefyd ofyn i Aileen sut mae Cymru Masnach Deg’n hyrwyddo cydlyniant cymunedol y mae sesiynau galw heibio RCW yn ceisio’u gwneud drwy ysbrydoli a chysylltu preswylwyr lleol o gefndiroedd gwahanol:

“Mae’r cynllun cymuned Masnach Deg yn un sydd ledled y DU ac rydym yn helpu i gefnogi grwpiau cymunedol i adnewyddu eu statws Masnach Deg neu i ddod yn grwpiau Masnach Deg. Mae ein ffocws ar weithio gyda sefydliadau eraill megis cynghorau, ysgolion, grwpiau cymuned a’r wasg leol. Mae grwpiau Masnach Deg yn cynnal sgyrsiau a gweithdai sy’n sesiynau rhyngweithiol gyda’r gymuned leol. Er enghraifft, mae’r grŵp Masnach Deg ym Mangor yn cynnal marchnad a bore coffi misol mewn capel lleol ac yn cynnal cinio Masnach Deg blynyddol, y maent yn eu trefnu ar y cyd â sefydliadau eraill yn yr ardal. Dyma gyfleoedd gwych i bobl ddod ynghyd.”

Gwnaeth hyn fy arwain at fy nghwestiwn olaf ynghylch effaith pandemig y coronafeirws a chyfyngiadau symud ar Gymru Masnach Deg:

“Mae Covid wedi cael effaith sylweddol ar Fasnach Deg ym mhedwar ban byd. Mae oddeutu 1.7 miliwn o ffermwyr a gweithwyr yn darparu cynnyrch Masnach Deg, ac mae eu gwaith wedi cael ei gyfyngu. Mae gweithwyr Masnach Deg wedi’u diogelu’n fwy nag y bidden nhw oherwydd bod cynhyrchwyr yn cael eu talu premiwm am eu cynnyrch ac maent yn dewis sut i’w wario fel cymuned. Drwy gydol y pandemig, mae hyn yn aml wedi golygu gofal iechyd a diogelwch yn erbyn Covid. Mae ganddynt fynediad i gronfa ryddhad yn ogystal â chronfa wydnwch. 

Yng Nghymru roedd yn rhaid i ni hefyd atal ein digwyddiadau, ein stondinau a siarad mewn ysgolion, er bod rhai grwpiau wedi gallu addasu. Er enghraifft, oherwydd nad oedd y marchnadoedd yn cael eu cynnal, gwnaeth y grŵp Masnach Deg yng ngogledd Cymru ddosbarthu nwyddau yn lle. Gwnaethom hefyd geisio codi ysbryd pobl a chefais ffotograff wedi gwisgo fel banana yn gwneud gweithgareddau yn y cartref yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud.”

Felly, os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli, fel yr wyf i, a hoffech gael rhagor o wybodaeth am Fasnach Deg Cymru, ewch i’w gwefan. Gallwch hefyd brynu cynnyrch Masnach Deg, gan gynnwys syniadau hyfryd ar gyfer y Nadolig, ar-lein drwy Traidcraft . Mae recordiad o’r digwyddiad “Coffee, Climate and the “Consumer – Paned, Planed a Phrynwyr” bellach ar gael ar.