Cymru Masnach Deg & COP26

Tachwedd 11, 2021

Mae newid yn yr hinsawdd wedi cael ei ddisgrifio fel y bygythiad mwyaf sy’n wynebu’r ddynoliaeth, ac yn wir, dyma’r her fwyaf i ffermwyr ar draws y byd, sy’n dibynnu ar y tywydd newidiol a’r dirwedd am eu bywoliaeth. Ar hyn o bryd, mae arweinwyr y byd yn ymgynnull yn Glasgow ar gyfer uwchgynhadledd COP26, i gymryd camau ar y cyd a mynd i’r afael â’r mater byd-eang hwn. 

Mae gweithredu ar yr argyfyngau hinsawdd ac ecolegol yn brif flaenoriaeth i ni drwy gydol y flwyddyn. Dyma bump peth i greu dyfodol cyfartal a chynaliadwy y gallech fod wedi’u colli. 


1.Y mis diwethaf, clywsom gan Lazarous Bwambale, ffermwr Masnach Deg o Uganda yn ein digwyddiad Diwrnod Coffi Rhyngwladol: Paned, Planed & Phrynwyr

Fe wnaeth Lazarou sein hatgoffa’n rymus o oblygiadau newid yn yr hinsawdd i’r rheini sydd ar y rheng flaen. Dywedodd mai cyfrifoldeb pobl ym mhobman yw newid ein hymddygiad i gefnogi ffermwyr a gweithwyr sy’n ymladd effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae prynu cynnyrch Masnach Deg yn annog arferion ffermio moesegol a chynaliadwy. 

Mae recordiad llawn o’r digwyddiad ar gael yma

 

2. Yn ystod Uwchgynhadledd Undod Byd-eang Hub Cymru Affrica ym mis Mawrth 2021, clywsom gan Santiago Peralta, un o sylfaenwyr Pacari Chocolate, ac Erinch Sahan, Prif Weithredwr Sefydliad Masnach Deg y Byd. Fe wnaethont siarad am gyfiawnder yn yr hinsawdd a’r math o ffermio mae angen inni ei groesawu i sicrhau dyfodol. Soniodd Santiago hefyd am ei fusnes arloesol sy’n rhoi pobl a’r blaned yn gyntaf. Gwyliwch yma

 

3. Gwyliwch y clip hwn o Jenipher Wettaka o Bythefnos Masnach Deg 2021. Ffermwr coffi Masnach Deg yn Uganda yw Jenipher sy’n gwerthu coffi yma yng Nghymru. Yn y clip hwn, mae Jenipher yn esbonio effeithiau newid yn yr hinsawdd ar ei busnes a’r gymuned ehangach. 

‘Sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio arnoch chi a’ch cymuned?’

Gallwch weld y fideo llawn ar ein sianel YouTube

 

4. Mae gennym nifer o adnoddau ar gyfer ysgolion ar ein gwefan. Defnyddiwch nhw yn eich ystafelloedd dosbarth cynradd ac uwchradd – maen nhw ar gael yn Gymraeg a Saesneg. 

Yn benodol,mae’r cynllun gwers, ‘the problem cocoa tree’.yn adnodd addysgu gwych i ddysgu am yr argyfwng hinsawdd a’i fygythiad uniongyrchol i fywoliaeth ffermwyr a gweithwyr ar draws y byd. Edrychwch ar yr holl adnoddau 

 

5. Ymunwch â ni i lofnodi llythyr agored Masnach Deg Affrica at wleidyddion, yn galw arnynt i fod yn deg gyda’u haddewidion hinsawdd. Mae 1.8 miliwn o ffermwyr a gweithwyr Masnach Deg yn galw am weithredu brys, ac yn gofyn i lywodraethau yn COP26 fod yn deg â’u haddewid o wario $100 biliwn ar yr hinsawdd. 

Mae gan ffermwyr Masnach Deg bedair prif alwad ar gyfer arweinwyr y byd, sy’n cynnwys sicrhau bod y $100 miliwn yn cyrraedd y rheini sydd ei angen. 

Mae’r llythyr bron wedi cyrraedd ei darged o 30,000 o lofnodion. Ychwanegwch eich un chi heddiw a helpwch i’w wthio dros 30,000. 


Beth am ddechrau drwy lofnodi’r llythyr. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith ar Fasnach Deg a’r Hinsawdd, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr. Byddwch yn llafar, yn uchel a lledaenwch y gair; mae angen cymryd camau ar newid yn yr hinsawdd nawr. Defnyddiwch eich llais i wneud gwahaniaeth.