Lansiad Cyfiawnder Masnach Deg

Ionawr 24, 2022
Llun gan - Photo by Ian Taylor on Unsplash

Mae’n bleser gan Cymru Masnach Deg a Fforwm Brexit CLlC (Cyngor Llywodraethiant Cymru) / CGGC gyhoeddi lansiad Cyfiawnder Masnach Cymru.

Mae Cyfiawnder Masnach Cymru yn gynllun peilot 12 mis i greu rhwydwaith o sefydliadau ac academyddion sydd â diddordeb mewn gwahanol feysydd o Gyfiawnder Masnach. Bydd rhanddeiliaid yn cydweithio ar draws ystod o feysydd moesegol, i sicrhau bod polisi masnach a chytundebau masnach newydd y DU yn cefnogi uchelgeisiau Cymru ar gyfer adferiad gwyrdd a chyfiawn, yn unol â nodau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae cytundebau masnach yn cael eu trafod ar lefel y DU gan Lywodraeth y DU, ond maen nhw’n cael effeithiau ymarferol yng Nghymru ac ar bolisi Cymru. Eto i gyd, prin yw’r capasiti, y sgiliau a’r cwmpas i leisiau cymdeithas sifil Cymru ddylanwadu ar bolisi masnach y DU a’r cytundebau sy’n deillio oddi wrtho, a chraffu arnynt.

Bydd y prosiect hwn yn rhoi cyfle i hyrwyddo safonau uchelgeisiol mewn cytundebau masnach, a mynd i’r afael â’r bwlch mewn gwybodaeth a sgiliau yn y maes hwn, drwy rannu gwybodaeth a darparu mwy o gapasiti a chyfleoedd hyfforddi. Bydd yn rhoi llais cyfunol i sefydliadau yng Nghymru o ran sicrhau bod polisi masnach yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu datblygu cynaliadwy.

Os hoffech ymuno â’r rhestr bostio rhanddeiliaid i gael y newyddion diweddaraf a hysbysiadau am gyfarfodydd, cofrestrwch.

Meddai Aileen Burmeister, Pennaeth Cymru Masnach Deg

‘Mae’r mudiad Masnach Deg yng Nghymru wedi bod yn ymgyrchu i Fasnachu fod yn fwy teg i ffermwyr a gweithwyr ers blynyddoedd lawer, ac rydym yn aml wedi gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau cyfiawnder o bob cwr o’r byd.

Rydym yn cydnabod bod materion Cyfiawnder Masnach yn effeithio ar bob maes  cynaliadwyedd a moeseg. Wrth i’r DU wneud ei chytundebau masnach ei hun, rydym yn edrych ymlaen at gydweithio i ymgyrchu dros system fasnach decach, sydd o fudd i bawb. Rydym yn hapus dros ben i wahodd eraill i ymuno â’n Prosiect Cyfiawnder Masnach Cymru.’

Dywedodd y tîm o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, sy’n cynnwys yr Athro Jo Hunt a Dan Wincott, Dr Ludivine Petetin a Charles Whitmore:

‘Mae dychwelyd y cyfrifoldeb am negodi masnach allanol i’r DU yn newid pwysig, sy’n codi cwestiynau sylweddol ynghylch cynhwysiant a chynnwys rhanddeiliaid o Gymru. Mae cytundebau masnach newydd bellach yn cael eu cwblhau’n gyflym gan y DU, yng nghyd-destun bwlch o ran capasiti ac arbenigedd cymdeithas ddinesig gydlynus.

Mae’r tîm yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, yn falch iawn o fod yn gweithio Cymru Masnach Deg i lansio Cyfiawnder Masnach Cymru. Bydd y prosiect hwn yn ceisio dwyn arbenigedd academaidd a’r trydydd sector ynghyd i gynyddu’r capasiti cydlynus yng Nghymru i eiriol dros gytundebau masnach sy’n gyfrifol yn gymdeithasol.’

Bydd y cyfarfod rhwydwaith cyntaf ar ddydd Llun 31 Ionawr; cofrestrwch i dderbyn y ddolen. Mae Cyfiawnder Masnach Cymru yn brosiect peilot 12 mis rhwng Cymru Masnach Deg a Fforwm Brexit CLlC (Cyngor Llywodraethiant Cymru) / CGGC, ac mae’n cael ei ariannu gan wobr Arloesedd i Bawb Prifysgol Caerdydd.