Diwrnod Masnach Deg y Byd 2022: Cyfiawnder Hinsawdd nawr!

Mai 9, 2022
World Fair Trade Day 14/05/2022 Diwrnod Masnach Deg y Byd

Mae’n Ddiwrnod Masnach Deg y Byd 2022! Y thema bwysig iawn eleni yw cyfiawnder yn yr hinsawdd.

Mae mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd nid yn unig yn anghenraid ecolegol, ond yn fater cyfiawnder cymdeithasol hefyd i’r rheini yr effeithir arnynt waethaf sy’n wynebu tywydd eithafol. Mae angen cyfiawnder hinsawdd arnom! Nod cyfiawnder hinsawdd yw darparu atebion teg, cynhwysol a chynaliadwy i’r rheini sydd ar reng flaen yr argyfwng hinsawdd.

Sefydlwyd Diwrnod Masnach Deg y Byd gan Sefydliad Masnach Deg y Byd yn 2001. Mae’n ddigwyddiad blynyddol, sy’n dathlu Masnach Deg ac sy’n codi ymwybyddiaeth eleni o’r argyfwng hinsawdd. Darllenwch 10 egwyddor Sefydliad Masnach Deg y Byd.

Cymerwch ran eleni drwy gefnogi Masnach Deg a rhannu neges o gefnogaeth. Ysgrifennwch “#GwnewchEnDeg” ar un gledr llaw, a “Cyfiawnder Hinsawdd Nawr” ar y llall. Tynnwch lun a thagio Cymru Masnach Deg a Sefydliad Masnach Deg y Byd yn eich neges.


Dyma rywfaint o eitemau Masnach Deg i ysbrydoli eich gweithredoedd ar Ddiwrnod Masnach Deg y Byd eleni.

1. Bar siampŵ Caled –  Lafant a Rhosmari

Bariau siampŵ ecogyfeillgar a fegan gyda gwahanol olewau cynaliadwy i faethu eich gwallt. Mae’r bariau siampŵ wedi’u gwneud â llaw yng Ngwlad Thai, ac yn cael eu gwerthu gan Shared Earth, aelod gwarantedig Sefydliad Masnach Deg y Byd (WFTO). Ydyn ni wedi sôn eu bod nhw’n gwbl ddi-blastig? Mae llawer mwy o aroglau ar gael!

2. Mygiau wedi’u gwneud â llaw

Mygiau Masnach Deg wedi’u gwneud â llaw mewn dyluniadau unigryw i sipian eich coffi Masnach Deg ynddynt. Gallwch eu rhoi mewn peiriant golchi llestri hefyd! Mae’r mygiau’n cael eu creu ar arfordir Dwyrain India gan grŵp o 60 o grefftwyr. Mae 100% o’r broses yn cael eu gwneud â llaw drwy feddalu’r clai crai i wydro’r cynnyrch terfynol. Drwy gymorth Sefydliad Masnach Deg y Byd, mae staff yn elwa o gyfleusterau meddygol ac yswiriant. Mae ysgol wedi agor yn y pentref hefyd ar gyfer 350 o ddisgyblion dan 11 oed, yn bennaf ar gyfer plant crefftwyr ond hefyd, ar gyfer plant sy’n byw yn yr ardal wledig gyfagos.

3. Blanecdi Falsa Mecsicanaidd

Ydych chi’n chwilio am y flanced fwyaf hardd a defnyddiol? Edrychwch ddim pellach. Mae’r blancedi Masnach Deg hyn yn cael eu gwneud yn defnyddio technegau llaw traddodiadol. Maen nhw’n wych i daflu dros eich soffa neu fel blanced glyd, ac yn berffaith ar gyfer diwrnodau traeth! Maen nhw’n cael eu gwneud o edau cotwm ac acrylig wedi’i ailgylchu, sy’n eu harbed rhag cael eu hanfon i’r safle tirlenwi.

4. Padiau tynnu colur Masnach Deg – cotwm – y gellir eu hailddefnyddio

Opsiwn cynaliadwy ac ecogyfeillgar gwych yn lle padiau tynnu colur sydd ond yn gallu cael eu defnyddio unwaith. Mae’r dyluniadau unigryw yn ddigon i wneud i chi fod eisiau prynu pecyn. Maen nhw’n cael eu gwneud â llaw gan gynhyrchwyr Masnach Deg yn India, a gellir eu defnyddio yn lle weips gwlyb, sy’n achosi problemau mewn systemau gwastraff ac sy’n aml, yn diweddu fyny yn y cefnfor.

5. Ryg rag cotwm Namaste wedi’i ailgylchu

Ydych chi’n chwilio am ryg newydd? Mae’r rygiau hyn o India yn cael eu gwneud o gotwm wedi’i ailgylchu a deunyddiau eraill wedi’u hailgylchu, ac maen nhw’n siŵr o daflu goleuni ar eich cartref. Mae Namaste wedi helpu dros 100 o gynhyrchwyr i dyfu a datblygu o fewn y rhanbarth, ac mae ganddynt gysylltiadau agos gydag elusennau hawliau plant yn Nepal.


Gallwch ddod o hyd i’r holl gynhyrchion uchod yn Fair & Fabulous, ynghyd â channoedd o eitemau eraill.

Dewch o hyd i’ch manwerthwr Masnach Deg lleol, ac addo prynu eitemau Masnach Deg ar Ddiwrnod Masnach Deg y Byd eleni a thu hwnt.

Diwrnod Masnach Deg y Byd Hapus!