Rydyn ni’n penodi
Mehefin 30, 2022Swyddog Datblygu ac Ymgysylltu &
Ymgynghorydd cyllid
Swyddog Datblygu ac Ymgysylltu
Mae Cymru Masnach Deg yn chwilio am swyddog datblygu brwdfrydig sy’n gallu defnyddio eu sgiliau i ddatblygu a chyflwyno sgyrsiau a gweithdai diddorol, adeiladau perthnasau gyda busnesau a chyrff cyhoeddus, a helpu i lywio twf Cymru Masnach Deg.
Mae Cymru Masnach Deg yn gweithio i gefnogi, tyfu a hyrwyddo’r mudiad Masnach Deg yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw creu byd cyfartal, drwy ddefnyddio ein gwerthoedd o gymorth, cydweithredu a grymuso. Dewch i ymuno â sefydliad cyfeillgar a Masnach Deg.
Bydd y swydd newydd hon yn helpu i ddatblygu gallu Cymru Masnach Deg i werthu ei gwybodaeth arbenigol, er enghraifft ar gyfrifoldeb byd-eang, caffael, cadwyni cyflewni, hawliau gweithwyr a chyfiawnder masnach, drwy adeiladu cysylltiadau â sefydliadau partner a gwerthu gweithdai ac ymgynghoriaeth bwrpasol.
Mae’r prosiect a’r swydd hon yn cael eu hariannu gan Gynllun Cam 3 Cronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru, sydd yn cael ei rheoli a’i gweinyddu gan CGGC ar ran Llywodraeth Cymru.
Manylion
Tymor: O leiaf 9 mis, estyniad gobeithiol
Cyflog: NJC band 18, £25,419 (£12,700 – 18 awr yr wythnos)
Oriau: 18 awr yr wythnos – 0.5 pro rata
Lleoliad: Gweithio o gartref neu mewn swyddfa yng Nghaerdydd
Gwyliau blynyddol: 25 diwrnod o wyliau pro rata/ y flwyddyn ac eithrio gwyliau’r banc
Gweithio’n hyblyg: Bydd yr holl geisiadau am gael gweithio’n hyblyg yn cael eu hystyried
Sut i ymgeisio
Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol drwy e-bost, yn esbonio sut rydych yn bodloni’r manylebau person, a pham rydych chi eisiau gweithio i Cymru Masnach Deg, i aileen@cymrumasnachdeg.org.uk erbyn 10am ar ddydd Mawrth 26 Gorffennaf 2022.
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal ar zoom yn ystod yr wythnos yn dechrau 1 Awst 2022.
Disgrifiad o’r swydd a manyleb person
I weld sut rydym yn defnyddio eich data, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd.
Ymgynghorydd cyllid
Mae Cymru Masnach Deg yn chwilio am ymgynghorydd cyllid sydd yn gallu defnyddio eu sgiliau i ddatblygu map ariannu, cynyddu incwm Cymru Masnach Deg drwy gronfeydd bach, a darparu nifer o geisiadau mwy am gyllid mewn cydweithrediad â thîm Cymru Masnach Deg.
Mae ein strategaeth ar gyfer 2020-2024 yn rhestru ein huchelgeisiau y tu hwnt i’n gallu presennol ar gyfer pob un o’n nodau strategol. Prif bwrpas y gwaith hwn yw galluogi Cymru Masnach Deg i ddod yn fwy gwydn, drwy ehangu ein ffrydiau incwm gan ffynonellau cyllido a chyllidwyr. Bydd cael y gallu i wneud cais am gyllid yn ein galluogi i wireddu ein huchelgeisiau o ran cefnogi gweithredwyr, creu partneriaethau ac argymell mwy o ymrwymiadau Masnach Deg gan y Llywodraeth, a’u gwireddu.
Mae’r gwaith mewn tri cham:
- Diweddaru ein cronfa ddata o gyllidwyr cymwys a chyrff sy’n rhoi grantiau (gwella prosesau) (Med-Hyd)
- Darganfod a chysylltu ag ystod o ffynonellau cyllido a chronfeydd bach ar gyfer symiau bach o gyllid anghyfyngedig (£500-£2k) (Hydion)
- Ceisio cynyddu ein hincwm drwy gwblhau nifer o geisiadau am gyllid mwy (£10k-£50k), gyda chymorth Pennaeth Cymru Masnach Deg (Rhag 10-Ebr)
Mae’r prosiect a’r swydd hon yn cael eu hariannu gan Gynllun Cam 3 Cronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru, sydd yn cael ei rheoli a’i gweinyddu gan CGGC ar ran Llywodraeth Cymru.
Manylion
Bydd yr ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio’n agos gyda Phennaeth Cymru Masnach Deg. Mae’r gwaith hwn mewn tri cham. Mae croeso i chi wneud cais am un neu ddau gam, neu am bob un o’r camau. Ni allwn wario mwy na £9,600 ar gyfer y gyllideb ar gyfer y tri cham, ac rydym yn disgwyl i hyn fod tua 2-3 diwrnod o waith y mis am 8 mis.
Y misoedd hyn yw Medi 2022 – Ebrill 2023, gyda’r gwaith yn dechrau’n raddol ac yn mynd yn fwy penodol ar adeg y ceisiadau mwy, sydd yn cael eu cynnal rhwng mis Rhagfyr 2022 a mis Ebrill 2023, yn dibynnu ar y gofynion ymgeisio.
Sut i ymgeisio
Anfonwch fynegiant o ddiddordeb byr a CV drwy e-bost i aileen@fairtradewales.org.uk erbyn 12 hanner dydd ar ddydd Mawrth, 19 Gorffennaf. Bydd un neu ddau baragraff yn dderbyniol ar gyfer y Mynegiant o Ddiddordeb.
Byddwn mewn cysylltiad pan fyddwn wedi edrych drwy’r e-byst o bobl sydd â diddordeb (21 Gorffennaf), ac yn gwahodd y rheini sydd ar y rhestr fer i gyflwyno cais byr (2 Awst) mewn ymateb i’n briff. Rydym wedi llunio briff ar gyfer yr ymgeiswyr hynny sydd ar y rhestr fer, a allai eich helpu i’n deall yn fwy fel sefydliad a’n hanghenion ariannu – pwy ydym ni, beth yw ein gwaith, pwy yw ein rhanddeiliaid a beth rydym eisiau ei wneud. Byddwn yn cynnig sgyrsiau anffurfiol ar-lein hefyd yn ystod yr wythnos yn dechrau 25 Gorffennaf i’r rheini sydd ar y rhestr fer, os ydynt yn dymuno trafod unrhyw agweddau ar y prosiect.
Disgrifiad o’r swydd a manyleb person
I weld sut rydym yn defnyddio eich data, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd.