Gwobr Blas Gwych ar gyfer Loli Oren Pop Cycle
Awst 31, 2022Ysgrifennwyd y blog hwn gan Elizabeth (George) Hudson – Pop Cycle
Mae’n bleser gan Pop Cycle ennill Gwobr Aur Blas Gwych am ein loli Oren Masnach Deg
Rydym wedi ein lleoli yn Abertawe, ac yn gwneud lolis sy’n llawn ffrwythau ffres a blas. Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i ennill sawl seren aur Blas Gwych am ein blasau, a nawr mae Pop Cycle yn cael ein cydnabod fel Cynhyrchydd Blas Gwych.
Ein seren ddiweddaraf yw ar gyfer y loli Oren, sy’n ffefryn mawr gyda’n cwsmeriaid mewn parciau ac mewn digwyddiadau. Mae’r pops i gyd yn figan, a gallwch gompostio’r pecynnau yn eich gardd. Maen nhw hefyd yn fach o ran maint, felly’n addas ar gyfer trît bach.
Pam Masnach Deg?
Rydym yn chwilio am orenau Masnach Deg bob amser ar gyfer y rysáit hon, gan fod Masnach Deg yn bwysig iawn i ni. Mae’r cynhwysion o’r safon uchaf ac ar ben hynny, maen nhw hefyd yn grymuso ffermwyr i wella eu cymunedau. Dyma rai o’n blasau:
- Mefus a Streip Banana
- Purple Rain
- Kulfi
- Afal / Afal Taffi
- Siocled
- Lemonêd
- Moctêl Mojito
- Gellygen Sbeislyd a Prosecco
- Mojito
Rwyf yn ddigon ffodus o fod wedi cael y cyfle i ymweld â chymunedau cynhyrchwyr Masnach Deg yn India a Ghana. Rwyf wedi gweld cynhyrchwyr yn trafod manteision iechyd dulliau ffermio organig a sut i weinyddu eu premiwm – yr arian ychwanegol mae cymunedau cynhyrchwyr yn ei gael ar ben y pris Masnach Deg gwarantedig. Rwyf wedi gweld sut mae crefftau traddodiadol yn cael eu cadw yn yr Aifft hefyd. Rydym wedi cael cynhyrchwyr cnau cashiw Masnach Deg a chynhyrchwyr bananas yn aros gyda ni fel rhan o Fforwm Masnach Deg Abertawe ac yn ystod teithiau cynhyrchydd Masnach Deg Cymru. Rydyn ni’n hoffi cysylltu â chyfanwerthwyr Masnach Deg fel JTS hefyd.
Uchafbwynt yn ein dyddiadur digwyddiadau arbennig oedd cynhyrchu pops pwdin ar gyfer y Gynhadledd Trefi Masnach Deg Rhyngwladol yn 2019 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Roedd y gynulleidfa ryngwladol uchel ei pharch wrth ei bodd gyda’r pops Coffi/Siocled, ac fe gafodd pops Cardamom eu gwneud yn arbennig ar gyfer y noson.
I gael rhagor o wybodaeth am Pop Cycle neu i holi am ddigwyddiad arbennig, cysylltwch â hello@popcycle.uk
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythtyr yma!