Cynhadledd Rhyngwladol Trefi Masnach Deg. Quito, Ecwador!
Hydref 31, 2022Yr wythnos ddiwethaf, cawsom y fraint o fynychu’r 15fed Cynhadledd Rhyngwladol Trefi Masnach Deg yn Quito, Ecwador. Dyma grynodeb o’r hyn ddigwyddodd, darllenwch i ddarganfod ble fydd y gynhadledd yn cael ei chynnal y flwyddyn nesaf… ‘vamos’!
Ers ei sefydlu yn Garstang, mae Trefi Masnach Deg yn awr yn fudiad byd-eang, gyda dros ddwy fil dau gant o drefi mewn dros deg ar hugain o wledydd. Bob blwyddyn, mae cynrychiolwyr y mudiad byd-eang hwn yn ymgynnull mewn gwahanol wledydd ar gyfer y Gynhadledd Rhyngwladol Trefi Masnach Deg. Cynhaliwyd y gynhadledd ddiwethaf yma, yng Nghymru yn 2019, ac eleni, fe’i chynhaliwyd yn Ecwador.
Hwyl yn Quito!
Dechreuodd y gynhadledd gyda chyflwyniadau i Quito ac Ecwador gan aelodau o’r awdurdodau lleol a’r llywodraeth genedlaethol, ac yna, gyda chroeso gan Fairtrade International, WFTO a CLAC. Yna, cyflwynodd Natalie Rees, un o’n Cyfarwyddwyr, fel rhan o drafodaeth banel ar bolisi cyhoeddus ar Fasnach Deg. Soniodd Natalie am y profiadau yng Nghymru, gan dynnu sylw at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – deddfwriaeth a oedd yn ennyn llawer o ddiddordeb ymhlith cynrychiolwyr rhyngwladol. Gorffennwyd y noson gyda choctels yng nghwmni band traddodiadol o Ecwador. Yn dilyn trafodaethau, mae’n amlwg hefyd, bod gan Gymru enw da unigryw o fewn y mudiad fel Cenedl Masnach Deg gyntaf y byd – rhywbeth y dylem i gyd ymfalchïo ynddo!
Diwrnod 2
Roedd ail ddiwrnod y gynhadledd yn ddiwrnod llawn o gyd-ddysgu a throchi diwylliannol. Cawsom gyflwyniadau diddorol ac ysbrydoledig gan ein ffrindiau yn Masnach Deg UDA, Masnach Deg Chicago, WFTO Affrica, Drakenstein Municipality a gan sawl un arall. Roedd pynciau allweddol y dydd yn canolbwyntio ar rymuso menywod, Masnach Deg a phrifysgolion, a datblygu trefi Masnach Deg. Calonogol oedd clywed am lwyddiannau Chicago Fair Trade mewn hyrwyddo Masnach Deg trwy amryw o ymgyrchoedd. Gyda digwyddiadau fel y Fair Trade Fashion Show, a siopau untro Nadoligaidd, mae Fair Trade Chicago wedi creu enw iddo’i hun o fewn y mudiad fel esiampl o ysbrydoliaeth.
Diwrnod olaf 🙁
Daeth y gynhadledd i ben ar y dydd Sul gyda chyflwyniadau terfynol ar gyfraniad Masnach Deg mewn perthynas â’r Nodau Datblygu Cynaliadwy, Masnach Deg ac eiriolaeth, ardystiadau Masnach Deg, modelau o economïau poblogaidd/cydsefyll, a chynghreiriau Masnach Deg. Yn dilyn hyn, dechreuodd y seremoni gloi, a chyfrif i lawr ar gyfer cyhoeddi ble y byddai’r gynhadledd yn cael ei chynnal y flwyddyn nesaf.
Lle nesaf?
Gyda’r allwedd i’r gynhadledd yn cael ei throsglwyddo o Quito, y flwyddyn nesaf, bydd yn cael ei chynnal yn … Glarnerland, Y Swistir! Yn ystod y pandemig, cynhaliodd y wlad gynhadledd rithwir, a bydd nawr yn elwa o gynnal y 16eg Cynhadledd Rhyngwladol Trefi Masnach Deg – byddwn yn eich diweddaru gydag unrhyw fanylion.
Yn olaf, diolch enfawr i bawb a helpodd i drefnu’r gynhadledd eleni yn Quito. Cawsom amser gwych yn cyfarfod â’n holl ffrindiau Masnach Deg yn y brifddinas hynaf yn Ne America. Hasta luego Quito!