Croeso, Eli!
Rhagfyr 9, 2022Hoffem groesawu aelod newydd o’r tîm, Eli Wislocka, sy’n gweithio yn Cymru Masnach Deg fel Swyddog Datblygu ac Ymgysylltu.
Symudodd Eli i Gaerdydd o Lundain yn ddiweddar. Mae ganddi gefndir mewn prosiectau ieuenctid cymunedol, ac mae hi wedi gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau ac elusennau, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn cyfiawnder cymdeithasol. Eli yw sylfaenydd Love and Salvage hefyd, brand sy’n trawsnewid lledr gwastraff yn ategolion hardd o waith llaw.
Mae Eli yn datblygu amrywiaeth o weithdai a sgyrsiau i fusnesau a chyrff cyhoeddus, felly cadwch lygad am ddyddiadau a gwybodaeth bellach.
Meddai Aileen Burmeister, Pennaeth Cymru Masnach Deg:
“Rydym yn falch iawn o groesawu Eli i’r tîm yma yn Cymru Masnach Deg. Mae angerdd Eli am degwch a’i phrofiadau eang ar draws y sector preifat, cyhoeddus a’r trydydd sector yn fantais wych i’r tîm. Rydym yn edrych ymlaen at dreialu ein gweithdai o amgylch Masnach Deg a chyfrifoldeb byd-eang yn fuan.”
Meddai Eli:
“Mae’n gyfnod mor gyffrous i fod yng Nghymru ac i fod yn rhan o dîm Cymru Masnach Deg. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio ar draws y gwahanol sectorau gyda’n gweithdai, a helpu pobl i edrych ar fasnach o safbwynt newydd.”
I gysylltu, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at info@cymrumasnachdeg.org.uk, neu cysylltwch gydag Eli yn uniongyrchol yn Gymraeg neu’n Saesneg drwy e-bostio eli@cymrumasnachdeg.org.uk.
Mae’r rôl hon yn cael ei hariannu gan Gam 3 Cronfa Cadernid Trydydd Sector Cymru Llywodraeth Cymru, sydd yn cael ei gweinyddu gan WCVA.