Sut Gallwch Chi Fod Y Newid ar gyfer Pythefnos Masnach Deg 2024
Medi 9, 2024Mae Pythefnos Masnach Deg 2024 yn canolbwyntio ar y thema o annog pobl i lynu at y thema ‘Byddwch y Newid’ – drwy brynu cynnyrch Masnach Deg, a chodi llais dros fasnach decach.
Mae 2024 yn ben-blwydd Masnach Deg yn 30 oed hefyd, a fydd yn dathlu sut mae’r marc Masnach Deg yn arweinydd effaith sy’n newid bywydau ffermwyr a gweithwyr ar draws y byd. Mae 30 mlynedd o werthiannau Masnach Deg wedi golygu dros £1.7 biliwn mewn Premiwm Masnach Deg, sy’n cefnogi ffermwyr a chynhyrchwyr nwyddau rydyn ni’n eu defnyddio bob dydd yn uniongyrchol.
Mae Cymru Masnach Deg yn dathlu’r Bythefnos Masnach Deg trwy gynnal Marchnad Foesegol am ddim ar 21 Medi, rhwng 10am – 2pm yng Nghanolfan Oasis yn Sblot, Caerdydd. Gall mynychwyr fwynhau stondinau moesegol a Masnach Deg, bwyd, diodydd ac adloniant i’r teulu cyfan.
Mae’r gweithgareddau’n cynnwys gweithdy brodwaith galw heibio, gwneud bathodynnau, posau a chyfle i ennill gwobrau hefyd. Hefyd, byddwn yn canu Pen-blwydd Hapus i Fasnach Deg, ac yn bwyta cacennau a brownies.
Caerdydd yn caru Masnach Deg
Bydd Jenipher Sambazi, cynhyrchydd coffi Masnach Deg o Uganda yn y digwyddiad yn rhannu ei stori. Mae Jenipher’s Coffi, yn cael ei rostio gan Ferraris yng Nghymru ac ar gael i’w brynu ar draws Cymru. Bydd ei goffi yn cael ei weini yn y digwyddiad, a gallwch brynu bagiau ohono i fynd adref.
Dywedodd Sarah Stone, Pennaeth Cymru Masnach Deg: “Rydym yn falch iawn o ddathlu 30 mlynedd o’r marc Masnach Deg yn ystod y Bythefnos Masnach Deg. Mae grwpiau Masnach Deg ar draws Cymru wedi ymgyrchu’n ddiflino yn eu cymunedau lleol i godi ymwybyddiaeth o Fasnach Deg a’r hyn y gellir ei wneud i gefnogi, tyfu a hyrwyddo’r mudiad. Gallwch chi lynu at y thema ‘Byddwch y Newid’ drwy fynychu ein digwyddiad, a gwybod bob tro y byddwch chi’n dewis Masnach Deg pan fyddwch chi’n siopa, eich bod chi’n gweithredu mewn undod â ffermwyr sy’n tyfu eich bwyd.”
Dywedodd Jenipher Sambazi, Is-gadeirydd Mt Elgon Agroforestry Communities Cooperative: “Rwy’n edrych ymlaen at ymweld â Chymru eto a rhannu fy stori. Mae gen i gysylltiad cryf gyda phobl Cymru – maen nhw’n mwynhau ein coffi o safon uchel, ac maen nhw’n hapus i’n cefnogi ni drwy Fasnach Deg”.
Mae digwyddiadau ar gyfer Pythefnos Masnach Deg yn digwydd ledled Cymru a gallwch fod yn rhan ohonynt.