Pythefnos Masnach Deg 2024

Dydd Llun 9th Medi – Dydd Sul 22nd Medi 2024

Mae’r Bythefnos Fasnach Deg eleni yn rhedeg rhwng 9 Medi a 22 Medi.  

Y thema eleni yw Cynrychioli’r Newid, a gallwch wneud hyn trwy brynu cynnyrch Masnach Deg, a siarad i fyny am fasnach decach.

2024 yw pen-blwydd Masnach Deg yn 30 oed, felly rydym eisiau defnyddio’r achlysur i dynnu sylw at sut mae 30 mlynedd o gydweithio wedi gwneud y Marc MASNACH DEG yn arweinydd effaith sy’n newid bywydau i ffermwyr a gweithwyr ar draws y byd.

Rydym yn gwybod y byddwch eisiau ymuno â ni i ddathlu’r effaith sylweddol y mae’r Marc Masnach Deg wedi’i chael yn y byd, ac i ddiolch i chi am eich
holl gefnogaeth a’ch cyfraniadau anhygoel.

Edrychwch ar becyn ymgyrch ddigidol Pythefnos Masnach Deg 2024, i weld yr adnoddau sydd ar gael i’ch cefnogi i gymryd rhan.

Beth rydym yn ei wneud

Marchnad Foesegol, Dyddiad: Dydd Sad, 21 Medi, Amser: 10am – 2pm, Lleoliad: Oasis, Sblot, Mynediad am ddim.

Ymunwch â Cymru Masnach Deg ar gyfer marchnad gyda stondinau moesegol a Masnach Deg, ardal caffi, bwyd ac adloniant, wrth i ni ddathlu 30 mlynedd o’r marc Masnach Deg, a dod at ein gilydd ar gyfer y Bythefnos Masnach Deg. 

Mwynhewch ddiodydd poeth Masnach Deg, bwyd blasus o’r lori Global Eats gan Oasis, ac ewch o gwmpas y stondinau i weld nwyddau Masnach Deg a moesegol, ffasiwn gynaliadwy a vintage, ac am y cyfle i gyfnewid llyfrau, prynu planhigion a mwy.

Bydd gweithdy brodwaith galw heibio, a’r cyfle i wneud bathodynnau ac i ennill gwobrau hefyd.

Digwyddiadau cymunedol:

Llanelli Fairtrade Fortnight Launch – Medi 9fed, 12:00

Dinas Powys Fairtrade Film Night – Medi 14fed, 18.30 Tocynnau ar gael nawr.

Carmarthenshire County Fair Trade Group – Holltodd Banana Masnach Deg anferth Medi 20fed, Yr Arcêd, Rhydaman.

Swansea Fairtrade Forum

Medi 9fed – Siop Oxfam Shop Bore Coffi

Medi 15fed – Bore Coffi Masnach Deg Gardd Gymunedol Clydach

Medi 18fed – Grŵp ActionAid Dod a Gwerthu Gwerthu

Medi 20fed – Noson Blasu Siocled Masnach Deg

Mwy wybodaeth : Events – Swansea Fair Trade Forum (fairtradeswansea.org.uk)

Abergavenny Fairtrade Forum – bydd gan y grŵp stondin yng Ngŵyl Fwyd y Fenni ar Fedi 21

Beth ryda i’i wneud?

Ymunwch â ni i ofyn i’ch AS gamu fyny a sefyll gyda ffermwyr Masnach Deg a chefnogwyr fel chi, sy’n arwain y ffordd mewn adeiladu dyfodol tecach.

Gofynnwch i’ch AS gynrychioli’r newid drwy addo eu cefnogaeth i fasnach decach

  • Trefnwch ddigwyddiad Cynrychioli’r Newid yn ystod y Bythefnos Masnach Deg, a gwahodd eich AS: Bob blwyddyn, mae cannoedd o ddigwyddiadau Masnach Deg yn dod â chymunedau cyfan at ei gilydd i siarad i fyny am fasnach decach, a bydd ASau yn awyddus i ymuno â digwyddiadau fel hyn yn fuan ar ôl yr etholiad. Beth am eu temptio i gymryd rhan trwy drefnu brunch neu frecwast ar y thema Cynrychioli’r Newid, sy’n cynnwys danteithion Masnach Deg?
  • Dywedwch wrthym am eich cynlluniau neu eich syniadau: Rydym yn edrych ymlaen at glywed am eich cynlluniau ar gyfer y Bythefnos Masnach Deg, a hyrwyddo eich gwaith gwych gymaint ag y gallwn.
  • Ysgrifennwch at eich AS i ofyn iddynt addo Cynrychioli’r Newid: Pan fydd y Bythefnos Masnach Deg yn dechrau, byddwn yn lansio adnodd cyflym a hawdd y gallwch ei ddefnyddio i ofyn i’ch AS sefyll gyda ffermwyr Masnach Deg.

Adnoddau:

Sefydliad Masnach Deg: Gallwch lawrlwytho graffeg ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, posteri y gellir eu hargraffu, ffilmiau byrion, cyflwyniadau a llawer mwy, i helpu i gyflwyno neges y thema Cynrychioli’r Newid yn eich cymuned.

Adnoddau Cymru Masnach Deg: Adnoddau ar gyfer dysgu, ymgyrchu, caffael a mwy i gefnogi eich gweithgareddau Masnach Deg. Wedi eu creu gan sefydliadau ac ymgyrchwyr Masnach Deg.