Swyddi
Chwefror 24, 2025
Swydd Lawrydd – Cadw Cyfrifon: Cymru Masnach Deg
Rydym yn chwilio am weithiwr llawrydd i weithio gyda ni yng Nghymru Masnach Deg i gadw cyfrifon, i gymryd lle ein un presennol sy’n ymddeol. Rydym yn dîm bach sy’n gweithio i gefnogi, tyfu a hyrwyddo’r mudiad Masnach Deg yng Nghymru. Ein gweledigaeth ydy creu byd cyfartal, gan ddefnyddio ein gwerthoedd o gefnogaeth, cydweithio a grymuso. Dewch i weithio gyda sefydliad cyfeillgar ac Masnach Deg.
Mae Cymru Masnach Deg wedi’i sefydlu fel cwmni, wedi’i gyfyngu drwy warant gyda statws nid er elw. Rydym yn gweithio fel rhan o bartneriaeth Hub Cymru Africa (HCA), ac wedi ein lleoli yng Nghaerdydd. Ar hyn o bryd, mae Hub Cymru Africa yn cael ei ariannu gan raglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru.
Bydd y rôl yn cynnwys darparu gwasanaeth cadw cyfrifon i ni i gyflawni’r canlynol:
Talu cyflogau misol
Talu anfonebau
Cofnodi trafodion ariannol
Creu ac anfon anfonebau
Talu a chofnodi anfonebau
Cynnal cysoniad misol
Cwblhau cyfrifon diwedd blwyddyn a chysylltu â’n cyfrifydd
Ymgynghori â Phennaeth Cymru Masnach Deg yn chwarterol ac yn ôl yr angen
Cyfraddau’r gwasanaeth:
| Tâl cadw misol (am 12-15 awr y mis) | £300 |
| Cyfanswm blynyddol | £3600 |
| Oriau ychwanegol, fel y cytunir | £25 yr awr |
Dylid anfon datganiadau o ddiddordeb ac unrhyw ymholiadau at Sarah Stone, Pennaeth Cymru Masnach Deg, drwy e-bostio: sarah@fairtradewales.org.uk erbyn Dydd Gwener 21 Mawrth 2025.
Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch CV a llythyr eglurhaol byr yn nodi eich diddordeb mewn cymryd rhan yn y contract yma.