Cystadleuaeth Celf Ieuenctid Cymru Masnach Deg
Dydd Llun 20th Mai – Dydd Llun 23rd Medi 2024Mae Masnach Deg yn dathlu 30 mlynedd, ac rydym yn cynnal cystadleuaeth gelf sy’n cyd-fynd â Pythefnos Masnach Deg 2024. Mae hon yn gystadleuaeth Cymru gyfan, a wnewch chi ein helpu i ddathlu’r mudiad?
Sut i gymryd rhan:
Yc elf rydym ei eisiau: Un ochr o baentiad A4, llun digidol/ffisegol, cerdd neu fideo (cân/cerdd/perfformiad).
Thema: Masnach Deg a Dim Datgoedwigo – Sut mae Masnach Deg yn gweithio i gael effaith yn erbyn datgoedwigo?
Cefndir: Mae coedwigoedd trofannol y byd yn cael eu dinistrio ac yn chwarae rhan enfawr yn yr amddiffyniad yn erbyn newid hinsawdd. Mae Masnach Deg yn gweithio gyda chynhyrchwyr a ffermwyr cynhyrchion fel coffi a chacao i helpu i wneud coedwigoedd yn fwy gwydn a chynaliadwy.
Pwy sydd yn gallu cymryd rhan?
Mae’r gystadleuaeth ar agor i blant 4-16 oed ar draws Cymru.
Categorïau: 4-6, 7-10, 11-16 oed – un enillydd a dau yn ail ym mhob categori.
Dylai’r gwaith celf fod yn wreiddiol ac yn greadigol.
Pryd mae’n agor ac yn cau?
Mae ceisiadau nawr ar agor – Y dyddiad cau ar gyfer anfon ceisiadau ydy 23 Medi am 7pm.
Dylech anfon eich ceisiadau yn ddigidol (llun cydraniad uchel neu sgan) i: emina@fairtradewales.org.uk
Telerau ac Amodau: Yma.
Bydd tri o feirniaid o bob rhan o Gymru yn penderfynu ar yr enillwyr. Rhoddir gwobrau i’r enillwyr a bydd cyflwyniad ym mis Hydref. Bydd gwaith sydd yn cael ei ddethol yn cael ei arddangos yn ddigidol ar wefan Cymru Masnach Deg.
Gwobrau: Bydd un enillydd o bob categori yn derbyn hamper Masnach Deg gwerth £100; bydd y ddau sydd yn dod yn ail a’r enillydd yn derbyn tystysgrif a siocled Masnach Deg. Bydd cyflwyniad i’r enillwyr ym mis Hydref.
Gweler y telerau ac amodau llawn am yr holl fanylion.