Y Barri yn Dathlu Dydd Gŵyl Dewi

Mawrth 10, 2025
Image shows two runners in daffodil hats smiling with fists in the air at Barry County Councils annual fun run. The town of Barry can be seen in the background with a bright blue sky and fields of green.

Llun gan Cyngor Tref y Barri

Ar yr 2il o Fawrth, 2025, fe wnaeth rhedwyr y Barri gymryd rhan yn y digwyddiad blynyddol, y ‘Carlam Cennin Pedr’ – ras hwyl 2 cilometr a drefnwyd gan Gyngor Tref y Barri. Fe ddaeth y digwyddiad cymunedol cyffrous hwn â theuluoedd, rhedwyr a chefnogwyr at ei gilydd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Lluniau gan Cyngor Tref y Barri

Rhedeg gyda ‘twist’ Masnach Deg

Wrth i redwyr groesi’r llinell derfyn, cawsant eu gwobrwyo gyda banana Masnach Deg a medal am eu gwaith caled. Mae’r Barri wedi dangos ei ymroddiad i fod yn dref foesegol a chynaliadwy, ac yn ddiweddar, mae’r dref wedi dathlu 10 mlynedd o fod yn gymuned Masnach Deg!

Cymerwch Ran

Ydych chi eisiau cefnogi Masnach Deg yn y Barri? Boed drwy siopa’n foesegol, mynychu digwyddiadau lleol neu ledaenu’r gair, mae pob ymdrech yn bwysig! 

Darganfyddwch mwy am y digwyddiad yma.