Yr Alban yn adnewyddu Statws Cenedl Masnach Deg
Mawrth 24, 2025
Llun gan Scottish Fair Trade
Mae’r Alban wedi ailddatgan ei hymrwymiad i degwch, cyfiawnder cymdeithasol a masnach foesegol drwy adnewyddu ei statws Cenedl Masnach Deg yn llwyddiannus, a ddyfarnwyd gyntaf iddi yn 2013.
Dathliad Carreg Filltir
I nodi’r cyflawniad, mae’r Alban yn croesawu cynrychiolwyr o Ganolfan Masnach Gynaliadwy Rwenzori yn Uganda. Mae eu hymweliad yn cynnwys cyfarfodydd gyda myfyrwyr New College Lanarkshire, sy’n arwain ymgyrchoedd Masnach Deg, a thaith o gwmpas Matthew Algie, rhostiwr coffi Masnach Deg yn Glasgow.
Cenedl yn Gweithredu
Croesawodd Angus Robertson MSP, Ysgrifennydd Materion Allanol yr Alban hyn, ac meddai:
“Mae’r Alban wedi bod yn falch o fod yn Genedl Masnach Deg ers 2013, ac mae cadw’r statws hwn yn ailddatgan ein hymrwymiad i degwch, cyfiawnder cymdeithasol, ac undod byd-eang. Mae bod yn Genedl Masnach Deg yn ymwneud â mwy na theitl yn unig – mae’n adlewyrchu ein gwerthoedd fel gwlad sy’n hyrwyddo masnach foesegol, sy’n cefnogi cynhyrchwyr yn y De Byd-eang, ac sy’n cymryd camau go iawn mewn perthynas â thlodi ac anghydraddoldeb.”
Gallwch ddarllen y stori llawn yma (Saesneg).