Grwpiau Masnach Deg Bangor yn Ysbrydoli Ysgolion Lleol
Ebrill 1, 2025
llun: Cymdeithas myfyrwyr 'Go Fairtrade' Prifysgol Bangor a Grŵp Masnach Deg Bangor
Mae cymdeithas myfyrwyr ‘Go Fairtrade‘ Prifysgol Bangor a grŵp Masnach Deg lleol Bangor wedi bod wrthi’n lledaenu’r neges Masnach Deg mewn ysgolion cyfagos. Mae eu hymdrechion wedi helpu i godi ymwybyddiaeth ac ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan.
Cyflwyno Masnach Deg yn yr Ystafell Ddosbarth
Ymwelodd y gwirfoddolwyr â phedair ysgol i gyd, gyda dwy sesiwn arall eisoes wedi’u cynllunio. Roedd y sesiynau rhyngweithiol hyn yn trafod beth yw Masnach Deg, pam ei fod yn bwysig, a’i ymdrechion yn erbyn datgoedwigo – gyda ffocws arbennig ar siocled Masnach Deg! Cafodd disgyblion eu hannog i fynegi eu dysgu trwy waith celf creadigol, a thrwy greu posteri a lluniau oedd yn adlewyrchu eu dealltwriaeth o werthoedd Masnach Deg.



Credydau am y lluniau: Cymdeithas myfyrwyr 'Go Fairtrade' Prifysgol Bangor a Grŵp Masnach Deg Bangor
Effaith Barhaol
Mae’r ymdrechion allgymorth eisoes yn dangos canlyniadau! Cynhaliodd un ysgol o Ynys Môn Ddiwrnod Masnach Deg, lle cafodd disgyblion gyfle i brynu cynnyrch Masnach Deg am £1, gan eu helpu i adnewyddu eu statws Ysgol Masnach Deg. Mae ysgol arall dan sylw, a oedd wedi cael ei hardystio gynt fel ysgol Masnach Deg, wedi cael ei hysbrydoli i ailymgeisio am statws Masnach Deg yn dilyn yr ymweliad.
Adborth Positif
Mae’r ysgolion wedi gwerthfawrogi’r ymweliadau hyn yn fawr, gydag athrawon a disgyblion fel ei gilydd yn ymgysylltu’n frwdfrydig mewn trafodaethau ynghylch masnach foesegol a chynaliadwyedd.
Mae grŵp Masnach Deg lleol Bangor a gwirfoddolwyr sy’n fyfyrwyr yn parhau i ddangos bod camau bach yn gallu creu newid mawr.