Jenipher yn ymweld â Chymru i ddathlu Pythefnos Masnach Deg 2025!
Medi 30, 2025
Fe wnaethom ni bartneru lan gyda Clare Bowman, gweithredwr aelod o’r Co-op, a Jenipher o Jenipher’s Coffi, i amlygu Bythefnos Masnach Deg i bobl ifanc yng Nghaerdydd.
Dysgodd y myfyrwyr am y gwahaniaeth y gall eu cyfnewidiadau prynu bach ei wneud i gynhyrchwyr a ffermwyr ledled y byd, fel Jenipher, sy’n wyneb cyfarwydd i lawer o gefnogwyr Masnach Deg yng Nghymru.



Mae Jenipher Sambazi yn ffermwr coffi o Uganda sydd wedi bod yn tyfu coffi ers 1992, ac yna, sefydlodd y brand Masnach Deg Jeniphers Coffi yn 2020.
Mae prynu Masnach Deg yn golygu helpu i liniaru effeithiau newid hinsawdd, ac yn cefnogi ffermwyr annibynnol a’u cymunedau i ddod yn fwy gwydn i’r eithafion tywydd y maent yn eu hwynebu’n fwy a fwy.
Yn ystod Pythefnos Masnach Deg yma, cawsom ein hatgoffa o’r caledi y mae’r cynhyrchwyr yn eu hwynebu’n fyd-eang, ond hefyd, o’r effaith y mae Masnach Deg yn ei wneud i fywydau bobl ledled y byd.
Gallwch brynu Jeniphers Coffi o’i gwefan, neu gan fanwerthwyr lleol eraill a restrir yma.
Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau gweddill eich Pythefnos Masnach Deg!