Pythefnos Masnach Deg 2025

Dydd Llun 22nd Medi – Dydd Sul 5th Hydref 2025

Gweler eich holl ddigwyddiadau lleol yma

Thema eleni ydy Gwnewch Bethau’n Deg; drwy ddewis yfed te neu goffi Masnach Deg, rydych chi’n cefnogi masnach decach.

Mae Wythnos Masnach Deg 2025 yn wythnos sydd yn ein hatgoffa bod y pethau rydym yn eu prynu’n bwysig. 

Mae Wythnos Masnach Deg 2025 (22 Medi – 5 Hydref) yn llawn digwyddiadau cymdeithasol ar draws Cymru, o Ferthyr i Fangor, i godi ymwybyddiaeth am y gwahaniaeth y gallwn ei wneud bob dydd, ac i fwynhau cwmni a phaned o de neu goffi’n lleol tra’n dysgu mwy am ein cymuned fyd-eang.

Beth y gallaf ei wneud?

  • Mynychu eich digwyddiad cymunedol lleol
  • Ymuno â’ch Grŵp Masnach Deg lleol  

Mae siopwyr yn credu bod cynhyrchu nwyddau’n foesegol yn bwysig.

Mae ymchwil a gynhaliwyd gan Beaufort yn dangos bod 7 allan o 10 (67%) o bobl yng Nghymru yn ystyried bod dewis nwyddau sydd wedi’u cynhyrchu’n foesegol yn bwysig pan fyddant yn gwneud penderfyniadau prynu, a bod 6 allan o 10 yn prynu gan gynhyrchydd moesegol pan y gallant. Ar draws y DU, mae ymchwil a gynhaliwyd gan Kantar yn dangos bod prynwyr yn y DU eisiau i fusnesau fod yn dryloyw. Mae 9 allan o 10 (86%) o siopwyr yn dweud ei bod yn bwysig i frandiau fod yn onest ynghylch o ble mae eu cynnyrch yn dod.

Beth y gallaf ei wneud?

  • Prynu te neu goffi Masnach Deg 
  • Gofyn i’ch hoff frandiau o ble mae eu cynnyrch yn dod

Dewch i ymuno gyda ni i alw ar wleidyddion i gefnogi ffermwyr Masnach Deg. 

Mae gwleidyddion yn gweithio ar eich cyfer, felly dywedwch wrthyn nhw beth rydych chi’n gwerthfawrogi. Mae angen iddynt glywed pam bod Masnach Deg yn bwysig i chi, a pham bod ffermwyr Masnach Deg yn arwain y ffordd tuag at adeiladu dyfodol teg.

Beth y gallaf ei wneud?

Beth ydy Masnach Deg?

Os ydy mwy o bobl yn dewis prynu cynnyrch Masnach Deg, mae hyn yn golygu incwm ychwanegol, pŵer a chefnogaeth i bron i 2 filiwn o ffermwyr mewn mwy na 70 o wledydd ar draws y byd. Drwy wneud y newid bach, a phrynu cynnyrch Masnach Deg, gall pob un ohonom gefnogi cynhyrchwyr i ddiogelu dyfodol rhai o’n hoff fwydydd a’r blaned.

Mae gennym ddiddordeb cyffredin mewn talu pris teg am y pethau mae ffermwyr yn eu cynhyrchu. Mae’r egwyddor Masnach Deg sylfaenol hon yn gymwys i ffermwyr ym mhobman, yma yng Nghymru ac o amgylch y byd. Mae data pleidleisio newydd ar gyfer 2025 yn datgelu ymrwymiad cryf a chynyddol ymhlith pobl yng Nghymru i siopa’n foesegol ac yn gynaliadwy.

Adnoddau:

Fairtrade Foundation: Gallwch lawrlwytho graffeg ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, posteri y gellir eu hargraffu, ffilmiau byrion, cyflwyniadau a llawer mwy i helpu i ledaenu’r neges ‘Byddwch y Newid’ yn eich cymuned.

Adnoddau Cymru Masnach Deg: Adnoddau ar gyfer dysgu, ymgyrchu, caffael a mwy i gefnogi eich gweithgareddau Masnach Deg. Wedi’u creu gan sefydliadau ac ymgyrchwyr Masnach Deg. 

Arwyddo’r ddeiseb Brew it Fair