Croeso nôl, Aileen!
Hydref 17, 2025
Mae’n bleser gennym groesawu Aileen Burmeister yn ôl fel Pennaeth Cymru Masnach Deg!
Ar ôl bod ar secondiad am ddwy flynedd gydag adran Gwaith Teg Llywodraeth Cymru, mae Aileen wedi dychwelyd i arwain ein cenhadaeth o greu byd tecach, mwy cynaliadwy drwy gyfiawnder masnach. Ers dychwelyd, mae hi wedi neidio nôl mewn i’r gymuned Masnach Deg- mae hi wedi mynychu sawl digwyddiad yn barod i ailgysylltu â grwpiau a phartneriaid ar draws Cymru.
Yn fwyaf diweddar, siaradodd Aileen ym Mrecwast Masnach Deg yn y Fro ar 10 Hydref yn Craft Republic yn y Barri, digwyddiad oedd yn ymwneud â chodi proffil Masnach Deg ar draws Bro Morgannwg.
Fe wnaeth y brecwast, a gafodd ei arwain gan grwpiau Masnach Deg lleol ac a gafodd ei agor gan Jane Hutt AC, ddathlu llwyddiannau lleol tra’n annog cydweithredu i siapio dyfodol Masnach Deg yn y rhanbarth. Mwynhaodd y gwesteion lawer o nwyddau Masnach Deg gan grwpiau lleol yn y Fro – gan gynnwys afalau wedi’u stiwio a oedd wedi cael eu tyfu’n lleol, muesli gan We Are Fair Trade, jamiau Masnach Deg M&S, a bananas o archfarchnadoedd lleol.
Fe wnaeth aelodau o’r gymuned, cynghorwyr a disgyblion ysgol o’r Barri, Dinas Powys, Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg a Phenarth fynychu’r digwyddiad. Roedd darparwyr bwyd lleol yn bresennol hefyd, fel The Big Fresh Catering Company, a drafododd eu hymdrechion cynaliadwyedd – gan gynnwys gweithio gyda chynhyrchwyr lleol, defnyddio cynnyrch Masnach Deg, a’u hymdrechion tuag at ddatgoedwigo.
Cafodd llawer o syniadau eu rhannu ar sut i wneud Masnach Deg yn rhan o hunaniaeth y Fro – o gysylltu Masnach Deg gyda’r strategaeth Bwyd y Fro, i archwilio’r potensial ar gyfer creu ap Masnach Deg sy’n cynnwys straeon cynhyrchwyr a stocwyr lleol.
Wrth siarad yn y digwyddiad, trafododd Aileen bwysigrwydd Masnach Deg fel system ddibynadwy sy’n amddiffyn cynhyrchwyr a’r blaned, a sut mae gweithredoedd lleol yn cyfrannu at statws Cymru fel Cenedl Masnach Deg cenedlaethol.
Wrth siarad am ddychwelyd, meddai Aileen:
“Mae’n wych bod yn ôl gyda Cymru Masnach Deg, ac ailgysylltu gyda grwpiau cymunedol, partneriaid Masnach Deg byd-eang, a’r siwt fanana enwog.
Cefais brofiad gwych gyda’r adran Gwaith Teg yn Llywodraeth Cymru, a dysgais gymaint am gaffael cyhoeddus a materion ehangach trwy gydol cadwyni cyflenwi. Rwy’n edrych ymlaen at roi’r hyn a ddysgais yn fy swydd yn Cymru Masnach Deg ar waith, i barhau â’n gweledigaeth o greu byd cyfiawn, sy’n masnachu’n deg.”
Croeso nôl, Aileen – mae’n grêt dy gael yn ôl!
