Busnes Masnach Deg newydd yng Ngheredigion

Mai 7, 2026

Os ydych chi’n chwilio am garped newydd, mae yna siop arbennig wedi’i agor yn Farchnad Neuadd y Dref yn Aberteifi sy’n werth ymweliad.

Sefydlwyd Warp and Weft gan Chantel Mathias o Drefdraeth, Sir Benfro, ar ôl iddi fethu dod o hyd i garped addas yn lleol ar gyfer ystafell wely ei ŵyr. Yn hytrach na phrynu ar-lein, penderfynodd Chantel i greu rhywbeth gwell; siop bwrpasol, sy’n cynnig detholiad hyfryd o garpedi wedi’u cynhyrchu’n foesegol, mewn amrywiaeth o liwiau, meintiau a deunyddiau.

Mae ei charpedi wedi’u gwneud o ddeunyddiau naturiol – gwlân, cotwm a jwt – gyda llawer ohonynt wedi’u gwneud allan o ddeunyddiau sydd wedi’u hailgylchu. Mae Warp and Weft dim ond yn defnyddio cyflenwyr ardystiedig Masnach Deg a Goodweave, sy’n golygu nad oes llafur plant wedi’i ddefnyddio yn eu proses cynhyrchu, a bod eu crefftwyr wedi cael eu talu’n deg.

Mae Chantel wedi bod yn ehangu ei stoc hefyd. Mae hi nawr yn cynnig matiau sisal o Ghana drwy gyflenwr Masnach Deg newydd yn y DU sy’n cefnogi crefftwyr lleol, yn ogystal â matiau ioga wedi’u hailgylchu o fagiau sari – cyfuniad bendigedig o gynaliadwyedd a thraddodiad.

Ac mae newyddion cyffrous – mae Warp and Weft newydd symud i uned ddwbl yn Farchnad Neuadd y Dref Aberteifi (Siopau 15 a 16, ar y llawr isaf), sy’n golygu bod Chantel nawr yn gallu stocio carpedi mawr hefyd!

Mae Warp and Weft ar agor 10yb-4yp o Ddydd Llun i Ddydd Mawrth, a Dydd Iau i Ddydd Sadwrn. Am fwy o wybodaeth, ewch i https://rugs.wales neu dilynwch @rugs.wales ar Instagram a Facebook.