Menywod, Hinsawdd a Masnach Deg
Mehefin 16, 2026
Y mis diwethaf, cafodd ein Pennaeth Aileen Burmeister y cyfle i siarad â Women Connect First, elusen gofrestredig fach dan arweiniad ac ar gyfer menywod a merched Duon, Asiaidd a lleiafrifol, sydd wedi bod yn gwneud gwaith gwych o’u canolfan yng Nglan yr Afon yng Nghaerdydd am dros ddau ddegawd.
Roedd y sesiwn yn rhan o’u prosiect ‘Diverse Voices on Climate Change’, lle cafodd pawb y cyfle i ddod ynghyd i gael sgwrs agored am fasnach deg a newid hinsawdd.
Fe esboniodd Aileen i’r grŵp beth yw Masnach Deg, a sut mae’r system yn gweithio i gefnogi ffermwyr a gweithwyr mewn gwledydd incwm isel a chanolig, hefyd gyda chymorth tystiolaethau fideo gan gynhyrchwyr Masnach Deg. Gwrandawodd y cyfranogwyr ar y straeon o’r bobl sy’n helpu i dyfu’r coffi a’r siocled rydyn ni’n eu prynu, ac sy’n profi’r difrod cynyddol i’w cynaeafau a’u cymunedau o ganlyniad i newid hinsawdd.
Mae ffermwyr ledled y byd yn dweud wrthym yn glir y bod newid hinsawdd eisoes yn ail-lunio eu bywydau. Mae’r Sefydliad Masnach Deg yn galw ar y llywodraeth i basio cyfraith newydd sy’n dal busnesau’n gyfrifol am unrhyw gamdriniaeth neu ddifrod hinsawdd y tu ôl i’w cynhyrchion. Gallwch gefnogi’r ymgyrch yma trwy lofnodi deiseb y Sefydliad Masnach Deg yma.
Ar ddiwedd y sesiwn, roedd yna gyfle i’r cyfranogwyr i roi cynnig ar gynhyrchion Masnach Deg wedi’u brynu o siopau lleol, gydag eitemau o Zaytoun yn ffefryn.
Dywedodd Mildred Foster, Cydlynydd Prosiect i Women Connect First:
“Diolch am y sesiwn wych. Mwynhaodd y menywod i gyd eich cyflwyniad a dysgwyd llawer am y mudiad Masnach Deg. Roeddent i gyd yn teimlo bod eich sgwrs yn addysgiadol iawn ac yn teimlo wedi’u hysbrydoli i brynu cynhyrchion Masnach Deg a lledaenu’r gair gyda theulu, ffrindiau a’u cymunedau.”
Diolch yn fawr iawn i Women Connect First am y croeso cynnes. Gallwch ddilyn nhw ar eu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a’u gwefan isod:
Instagram: @women_cf
Facebook: @Women Connect First
Gwefan: womenconnectfirst.org.uk