Bwletin Polisi #1

Medi 1, 2026

Cymru Masnach Deg ydy’r corff cenedlaethol ar gyfer Masnach Deg yng Nghymru — y wlad gyntaf erioed i ddod yn Genedl Masnach Deg. Rydym yn gweithio i gryfhau, tyfu ac ysbrydoli’r mudiad Masnach Deg ar draws Cymru.

Mae gennym dair nod strategol ac un ohonynt ydy: cynnal a chryfhau dealltwriaeth o Gymru fel Cenedl Masnach Deg, a’r ymrwymiad iddi.

Mae ein bwletin polisi yn rhannu’r cynnydd rydym yn ei wneud tuag at gyflawni’r nod hwn, ac yn dangos sut y gallwch chi gymryd rhan.

Y darlun ar hyn o bryd

Etholiad

Wrth i etholiad y Senedd agosáu, fe wnaethom gynhyrchu ein gofynion polisi ar gyfer ymgeiswyr ac ar gyfer Llywodraeth newydd Cymru. Gallwch rannu’r rhain gyda’ch chwe Aelod o’r Senedd (ASau), eu gwahodd i’ch gweithgareddau, a dweud wrthynt pam bod Masnach Deg yn bwysig i chi.

Yn dilyn yr etholiad, mae gan Gymru Lywodraeth newydd a Gweinidogion newydd. Mae Sioned Williams AS, Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, yn gyfrifol am Gymru ac Affrica — y tîm sydd wedi cefnogi Cymru fel Cenedl Masnach Deg ers 2008.

Rydym eisiau i ASau wybod bod Masnach Deg yn bwysig i’w hetholwyr. Yn ystod y Bythefnos Masnach Deg, bydd digwyddiad yn cael ei gynnal yn y Senedd ar 29 Medi yn ystod amser cinio, ac yn dod â chynhyrchydd Masnach Deg a chefnogwyr o bob rhan o Gymru at ei gilydd.

Caffael

Mae cyrff cyhoeddus yn datblygu eu Strategaethau a’u Hamcanion Caffael Cymdeithasol Gyfrifol newydd. Mae hyn yn gyfle da i gynnwys Masnach Deg fel ffordd o ddangos cyfrifoldeb ar lefel byd-eang.

Masnach Deg

Mae Fairtrade International yn cynnal adolygiad sawl gwaith y flwyddyn o safonau Masnach Deg, er mwyn ymateb i’r heriau byd-eang cynyddol. Mae ymgynghoriadau cyhoeddus yn cael eu cynnal, ac mae rhai ohonynt ar agor erbyn hyn.

Mae Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin hefyd wedi cynhyrchu papur ymchwil ar Fasnach Deg i gefnogi dadl yn Senedd y DU ym mis Rhagfyr 2025.

Cynnydd

1. Fe wnaethom gyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriadau, ac annog Llywodraeth Cymru i gryfhau’r defnydd o gyfrifoldeb byd-eang ym maes caffael drwy gyfeirio’n benodol at Fasnach Deg a darparu canllawiau mwy ymarferol. Roeddem yn falch bod Masnach Deg wedi cael ei gynnwys yn eu dogfen ganllaw derfynol (Atodiad 1).

2. Soniwyd yn gadarnhaol am Fasnach Deg dair gwaith yn ystod dadl yn y Senedd ar Wariant Rhyngwladol.

3. Fe wnaethom siarad yn y gynhadledd BAFTS flynyddol, a thrafod dyfodol Masnach Deg a’r heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau.

Ffocws ar Gaffael

● Bellach, nid oes rhaid i gyrff cyhoeddus brynu’r opsiwn rhataf. O dan Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, gallant ystyried ystod ehangach o ffactorau wrth gaffael. Yng Nghymru, mae hyn yn cael ei alw’n ‘Gaffael Cymdeithasol Gyfrifol’ ac yn 2023, fe wnaethom ymgyrchu dros ddeddfwriaeth newydd i sicrhau bod cyfrifoldeb byd-eang yn rhan o’r ddeddfwriaeth hon.

● Cafodd ein Pennaeth Cymru Masnach Deg ei secondio i Lywodraeth Cymru i helpu i ddatblygu’r canllaw statudol, ac fe wnaethom gyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriadau ar y canllaw ategol. Roeddem yn falch o weld fod y canllaw statudol terfynol yn cyfeirio’n benodol at gyfrifoldeb byd-eang wrth osod amcanion, gan greu cyfle cryf i wreiddio Masnach Deg mewn caffael cyhoeddus.

● Ers mis Ebrill, mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus gyhoeddi strategaeth caffael cymdeithasol gyfrifol ac ‘amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol’ (SRPOs). Rhaid i’r amcanion hyn gynnwys cyfrifoldeb byd-eang, a chreu cyfle clir i gynnwys Masnach Deg.

● Gallwch helpu drwy gysylltu â’ch cynghorydd sir lleol, neu’r cynghorydd sy’n gyfrifol am gaffael, a’u hannog i gynnwys Masnach Deg yn eu SRPOs. Mae caffael cynnyrch Masnach Deg yn ffordd syml ac effeithiol i gyrff cyhoeddus ddangos cyfrifoldeb byd-eang o dan y Ddeddf.

Sut allwch chi helpu

Darllen: am Gyflog Teg, thema Pythefnos Masnach Deg eleni (21 Medi – 4 Hydref)

Rhannu: ein gofynion polisi gyda’ch chwe Aelod newydd o’r Senedd

Gweithredu: cysylltu gyda’ch cyngor lleol, neu gydag unrhyw gorff cyhoeddus perthnasol, a’u hannog i gynnwys Masnach Deg yn eu Hamcanion Caffael Cymdeithasol Gyfrifol newydd.