Mae siop arbennig yn chwilio am rywun fel chi!

Gorffennaf 14, 2026

Mae Fair and Fabulous yn chwilio am wirfoddolwr i hyrwyddo Masnach Deg drwy helpu i staffio eu siop ar ddydd Sadwrn ac i helpu gyda’u siop ar-lein.

Pwy ydy Fair and Fabulous?

Siop Fasnach Deg annibynnol ydy Fair and Fabulous, sydd hefyd yn gwerthu cynnyrch drwy siop ar-lein. Maen nhw’n aelodau gweithgar o BAFTS Fair Trade Network UK, yn gweithio’n agos gyda ni yng Nghymru Masnach Deg, ac yn rhedeg Grŵp Cymunedol Masnach Deg Castell Newydd Emlyn.

Mae Fair and Fabulous wedi’i leoli yng Nghastell Newydd Emlyn, yng nghanol Dyffryn hardd Teifi yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru. Mae’n ardal sy’n meithrin cysylltiadau cymunedol agos yn naturiol, ond mae Fair and Fabulous yn credu y dylai’r cysylltiadau hyn ymestyn yn fyd-eang yn ogystal ag yn lleol. Drwy Fasnach Deg, ei nod yw darparu incwm i bobl mewn cymunedau bach mewn sawl rhan o’r byd – a chreu cysylltiadau o bentref i bentref er mwyn adeiladu byd tecach. Prif bwrpas eu gwaith ydy i ddarparu cyfleoedd a chyflog teg i grefftwyr yn y cymunedau mwyafrif byd-eang.

Beth mae’r rôl yn ei gynnwys?

Bydd y gwirfoddolwr yn gweithio yn y siop yn gwasanaethu cwsmeriaid, yn rhannu’r straeon y tu ôl i’r cynnyrch ac yn hyrwyddo egwyddorion Masnach Deg. Bydd y gwirfoddolwr a ddewisir yn helpu i ddylunio arddangosfeydd yn y siop ac yn y ffenestr, gyda’r cyfle i dynnu lluniau o gynnyrch, helpu gydag ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol, diweddaru’r siop ar-lein a chefnogi ymgyrchoedd Masnach Deg.

Ble a phryd fyddwch chi’n gwirfoddoli?

Bydd eich gwaith gwirfoddoli yn digwydd yn eu siop yng Nghastell Newydd Emlyn ar ddydd Sadwrn. Mae’r siop ar agor rhwng 10yb a 5yp. Efallai y bydd cyfleoedd hefyd i deithio i ddigwyddiadau a stondinau y tu allan i’r siop.

Pwy fyddai’n addas ar gyfer y rôl?

Y rhinwedd mwyaf pwysig ydy rhywun sydd ag angerdd dros Fasnach Deg. Gall y tîm ddysgu’r ffeithiau i chi, ond mae angen ichi gredu’n gryf mewn cyfiawnder masnach. Byddwch yn gyfathrebwr da, sy’n mwynhau siarad â phobl, ac yn rhywun sydd yn barod i chwilio am dasgau i’w gwneud pan fo’r siop yn dawel. Mae hefyd yn bwysig bod gennych synnwyr digrifwch da, a’ch bod chi’n barod i wneud pethau ychydig yn wirion weithiau i hyrwyddo Masnach Deg!

Byddai llawer o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, a byddai gallu siarad Cymraeg yn ased mawr i’r tîm (ond nid yn hanfodol).

Beth ydy’r manteision i chi?

Byddwch yn ennill gwybodaeth ymarferol werthfawr am Fasnach Deg, a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer unrhyw rôl yn y sector undod byd-eang. Byddwch hefyd yn cael profiad o redeg busnes, cyrchu cynnyrch, hybu cynnyrch ar y cyfryngau cymdeithasol ac o ddefnyddio llwyfan e-fasnach. Byddwch hefyd yn cael gostyngiad o 15% ar unrhyw gynnyrch rydych chi’n ei brynu o’r siop!

Beth i’w wneud nesaf

Os hoffech gymryd rhan, anfonwch e-bost i’r cyfeiriad enquiries@hubcymruafrica.wales, gyda’r geiriau “Gwirfoddoli / Volunteering” yn y llinell bwnc.