Amdano Cymru Masnach Deg
Mae Cymru Masnach Deg yn cefnogi, tyfu a hyrwyddo’r mudiad Masnach Deg yng Nghymru.
Ers 2009, rydym ni wedi ymgyrchu dros hawliau ffermwyr a chynhyrchwyr mewn gwledydd incwm isel a chanolig sydd fel arfer yn cael eu talu’n wael ac yn byw gydag effeithiau newid hinsawdd. Credwn y dylai pob ffermwr a gweithiwr, ble bynnag y maent yn byw yn y byd, dderbyn incwm byw.
Mae Cymru yn genedl fach, ond rydyn ni am chwarae ein rhan wrth greu byd gwell – yma a thu hwnt – ac yn 2008 daethom y Genedl Masnach Deg gyntaf yn y byd.
Pobl sy’n bwysig i ni, nid elw ac mae ein gweledigaeth ar gyfer byd cyfartal sy’n masnachu’n deg fel y gall pawb gynnal bywoliaeth weddus ac urddasol. Ein cenhadaeth yw gweithredu fel catalydd ar gyfer y mudiad yng Nghymru, ac ym mhopeth a wnawn, rydym yn ymdrechu i fod yn gefnogol, yn gydweithredol ac i alluogi.
Mae pobl yn ein hadnabod am ein gwybodaeth a’n barn arbenigol ynghylch Masnach Deg, cyfiawnder masnach a materion ehangach yn ymwneud â hawliau dynol, cynaliadwyedd a chydraddoldeb. Rydym yn gweithio gyda dau gorff Masnach Deg rhyngwladol – Masnach Deg Rhyngwladol a Sefydliad Masnach Deg y Byd – ac yn cefnogi dros 30 o grwpiau Masnach Deg gweithredol sy’n gweithio gyda chymunedau a sefydliadau lleol ledled Cymru. Gallwn hefyd gefnogi sefydliadau i fodloni saith Nod Llesiant y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), darn arloesol o ddeddfwriaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus weithio’n well gyda phobl, cymunedau a gyda’i gilydd, ac i atal problemau fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid hinsawdd.
Mae Cymru Masnach Deg yn gwmni bach wedi’i gyfyngu trwy warant, gyda dau aelod staff rhan-amser, gwirfoddolwyr a bwrdd o gyfarwyddwyr. Rydym yn bartner yn Hub Cymru Africa, ac yn rhan o Fudiad Cyfiawnder Masnach y DU. Ariennir Cymru Masnach Deg gan Lywodraeth Cymru trwy’r raglen Cymru ac Affrica.
Beth rydyn ni’n gwneud
Mae gan Cymru Masnach Deg ran bwysig i’w chwarae wrth gefnogi twf y mudiad ledled Cymru a darparu cyfleoedd i gynhyrchwyr Masnach Deg yn rhyngwladol.
Rydym yn gweithio gyda dros 30 o gymunedau Masnach Deg, 200 o ysgolion, 18 awdurdod lleol ac wyth o fanwerthwyr Masnach Deg, ac yn cysylltu â grwpiau ffydd, prifysgolion a busnesau yng Nghymru bob blwyddyn. Rydym hefyd yn cydlynu ymgyrchoedd a digwyddiadau gan gynnwys Pythefnos Masnach Deg a theithiau cynhyrchwyr Masnach Deg yng Nghymru. Ni hefyd yw’r unig sefydliad Masnach Deg cenedlaethol yng Nghymru sy’n cynnig adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer Cymru gyfan.
Beth hoffem ni gyflawni
Mae gan Cymru Masnach Deg tri phrif amcan; sydd i:
- Gefnogi: Creu a chefnogi gweithredwyr
- Dyfu: Creu partneriaethau a chynyddu cyfleoedd i’r eithaf
- Hyrwyddo: Cynnal a gwella ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hyrwyddo Cymru fel Cenedl Masnach Deg
Rydyn ni’n gwneud hyn oherwydd rydyn ni’n credu ei bod hi’n bwysig bod pob cynhyrchydd a chyflenwr yn derbyn incwm byw.
Cyfarfod â'r tîm
-
Sarah Stone
Pennaeth Cymru Masnach Deg (secondiad)Mae gyrfa Sarah wedi bod yn y trydydd sector yn bennaf, ac mae hi wedi bod yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol, iechyd meddwl a materion cymunedol. Yn fwyaf diweddar, bu'n gweithio i'r Samariaid, ochr yn ochr â gwirfoddolwyr ar draws Cymru, a gyda'r llywodraeth ac asiantaethau eraill i wella polisi iechyd meddwl a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau. Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn adrodd straeon, ac mae hi newydd orffen MA mewn ysgrifennu creadigol.Hoff Gynnyrch Masnach Deg
Siocled tywyll Divine gyda ffrwythau a chnau! -
Kadun Rees
Swyddog Cymunedol a ChyfathrebuMae gan Kadun gefndir ym maes cyfathrebu, ac mae ganddo ddiddordeb mewn masnach, datblygu a chyfiawnder hinsawdd. Mae'n siaradwr Cymraeg balch, yn dysgu Sbaeneg ac ar hyn o bryd, ac mae gyda gradd MSc mewn Gwrthdaro, Diogelwch a Datblygu.Hoff Gynnyrch Masnach Deg
Coffi- Ffa Jenipher’s Coffi -
Angela Roe
Swyddog CyllidMae gan Angela gefndir mewn cadw cyfrifon ar ôl gweithio fel clerc cyfrifwyr ers blynyddoedd lawer. Hi yw aelod hiraf y tîm, ar ôl bod gyda Cymru Masnach Deg fel ceidwad llyfrau ers 2006. Mae Angela yn arweinydd Brownis ac yn mwynhau crefftau fel gwnïo a gwau. -
Lila Haines
CadeiryddYmchwilydd annibynnol ac awdur yw Lila y mae ei gyrfa wedi cynnwys newyddiaduraeth, gwleidyddiaeth a datblygiad rhyngwladol. Mae’n siarad Cymraeg, Gwyddeleg a Sbaeneg ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn materion cydraddoldeb, datblygiad cynaliadwy a hanes gwleidyddol.Hoff Gynnyrch Masnach Deg
Hufen ia - Ben & Jerry’s Karamel Sutra -
Rita Singh
Is-gadeiryddMae gan Rita sawl blwyddyn o brofiad yn gweithio ar gynaladwyedd, gan ddod â chyfoeth o brofiad ar ddatblygiad polisi, rhwydweithio ac arwain camau gweithredu i gyflawni newid ar bolisïau datblygiad cynaliadwy yn y sectorau preifat, cyhoeddus a’r trydydd sector.Hoff Gynnyrch Masnach Deg
Olew Olewydd ac Almonau Zaytoun -
Tamsin Wallbank
TrysoryddGwnaeth Tamsin raddio gyda BA(Anrh.) mewn Athroniaeth ym 1996. Treuliodd sawl blwyddyn yn gweithio i fanciau amrywiol y stryd fawr cyn dychwelyd i’r brifysgol i wneud MSc mewn Busnes a TG. Ar hyn o bryd, mae Tamsin yn ystyried dysgu sut i fwyta tân a deifio yn yr awyr.Hoff Gynnyrch Masnach Deg
Pêl rygbi’r Bala (bach a maint llawn) -
Emma Brown
CyfarwyddwrMae gan Emma gefndir mewn ffermio, Gwyddorau Bwyd a’r diwydiant bwyd, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio yn FareShare. Ar ôl treulio amser yn gweithio ar ffermydd yn Ne’r India a Sbaen, mae’n gwerthfawrogi caledi ffermio ac mae am hyrwyddo cymdeithas fwy cydradd a thecach.Hoff Gynnyrch Masnach Deg
Tony’s Chocolonely (yn benodol dark chocolate almond sea salt) -
Natalie Rees
CyfarwyddwrArbenigwr cynaladwyedd yw Natalie gyda thros 20 o flynyddoedd o brofiad. Ar hyn o bryd mae’n gweithio gyda Thrafnidiaeth i Gymru, ac mae hefyd yn bartner mewn cwmni arlwyo feganaidd. Mae Natalie yn frwd dros Fasnach Deg, wedi iddi sefydlu ac ennill statws ar gyfer Grŵp Masnach Deg Castell-nedd Port Talbot.Hoff Gynnyrch Masnach Deg
Tony’s Chocolonely (yn benodol dark chocolate almond sea salt) -
Jeff Williams
CyfarwyddwrGwnaeth Jeff Williams astudio diwinyddiaeth a gwnaeth weithio fel Gweinidog cyn ymuno â Chymorth Cristnogol, lle death yn Bennaeth, gan weithio gyda’r sefydliad mewn deunaw o wledydd, ac roedd yn weithgar ar glymbleidiau Cymru yn ymgyrchu dros gyfiawnder byd-eang.Hoff Gynnyrch Masnach Deg
Bananas -
Brân Devey
CyfarwyddwrMae Brân yn gyn-weithiwr i Cymru Masnach Deg ac mae bellach yn gweithio i Ramblers Cymru, lle mae’n eiriolwr brwd dros gael pobl tu allan i wella eu hiechyd a’u lles. I grynhoi, nodweddir ei yrfa hyd yma gan angerdd dros gyfathrebu, materion amgylcheddol a rhyngwladol, ymrwymiad i iechyd meddwl, a chred gref mewn cyfiawnder byd-eang ac undod.Hoff Gynnyrch Masnach Deg
Siaced Paramo -
Alex Phillips
CyfarwyddwrMae Alex wedi gweithio ym maes polisi cyhoeddus yng Nghymru ers dros ddegawd gyda ffocws sylfaenol ar bolisi a deddfwriaeth amgylcheddol a datblygu cynaliadwy. Mae Alex yn angerddol am y croestoriadau rhwng cynaliadwyedd amgylcheddol a chymdeithasol/diwylliannol, yn enwedig o fewn y system fwyd.Hoff Gynnyrch Masnach Deg
Popeth Masnach Deg o Greggs -
Aileen Burmeister
Pennaeth Cymru Masnach Deg (i ffwrdd ar secondiad)Mae Aileen wedi gweithio yn y sectorau elusen ac addysg, gyda sefydliadau sy’n canolbwyntio ar dlodi a grwpiau sydd wedi’u heithrio. Mae’n mwynhau gweithio ar ymgysylltiad cymunedol, ôl-effeithiau bargeinion byd-eang a blasu cynnyrch Masnach Deg newydd.Hoff Gynnyrch Masnach Deg
Co-op Irresistible Single Origin Dark Chocolate with Orange -