Cynhadledd BAFTS 2026
Gorffennaf 20, 2026
Ym mis Mai, croesawodd Cymru’r Gynhadledd Flynyddol BAFTS (The British Association of Fair Trade Shops) i Ganolfan Gymunedol Butetown yng Nghaerdydd. Dros y ddau ddiwrnod, daeth nifer o berchnogion siopau Masnach Deg, cyflenwyr ac eiriolwyr o ar draws y DU at eu gilydd i rannu diweddariadau pwysig ac i drafod dyfodol Masnach Deg.
Siaradodd Matt Oliver o Bala Sport (cwmni cydweithredol menter gymdeithasol pêl-droed Masnach Deg) am sut mae dyfodol Masnach Deg yn dechrau gydag addysgu busnesau newydd ar sut y gallant weithio fel rhai Masnach Deg, a sut mae BAFTS yn helpu i gefnogi a thyfu busnesau bach.
Siaradodd Oxfam Intermon am eu siopau byd-eang, sydd ddim yn siopau ail-law, ond yn siopau sy’n gwerthu eitemau Masnach Deg yn unig – syniad anhygoel! Yn y gorffennol, roedd y siopau yma’n canolbwyntio ar fwyd Masnach Deg yn unig, ond yn ddiweddar, maent wedi symud i’r maes ffasiwn sy’n gwerthu’n dda iddynt, yn enwedig eu pyjamas.
Cyfrannodd Hub Cymru Africa at sesiwn allweddol ar Siarter Gwrth-Hiliaeth BAFTS, gan arwain adlewyrchiad ar sut mae siopau a sefydliadau yn gallu gweithredu egwyddorion yn eu gwaith pob ddydd. Roedd ymatebion gan gyfranogwyr yn adlewyrchu mudiad a oedd yn barod i gymryd y camau pwysig i newid eu dull o iaith, adrodd straeon a strwythurau mewnol.

Cyfraniad wrth Gymru Masnach Deg
Roedd Aileen Burmeister, Pennaeth Cymru Masnach Deg, yn rhan o drafodaeth banel allweddol roedd yn ffocysu ar ddyfodol Masnach Deg. Tynnodd Aileen sylw at y ffaith bod hwn yn foment o newid; mae’r ffordd rydym yn siopa, ymgyrchu, gwirfoddoli a gweithio wedi newid yn sylweddol ers y pandemig, ac mae angen i’r mudiad Masnach Deg adlewyrchu ar hynny mewn modd onest.
Mae Masnach Deg yn gysyniad hynafol wedi’i gynrychioli gan y duwiesau cyfiawnder a thegwch a wnaeth cario’r cloriannau pwyso. Ac mae llwyddiant y mudiad modern wedi’i adeiladu ar dechnoleg; awyrennau sy’n galluogi cysylltiad uniongyrchol rhwng ffermwyr a chynhyrchwyr, a fideo-gynadledda sy’n caniatáu i grwpiau ledled Cymru i ddod at eu gilydd yn aml.
Y dyfodol yw i ni i lunio, ac mae yna sawl llwybr o’n blaenau. Yr hyn sydd bwysicaf nawr yw ein bod yn barod i addasu, gan gynnwys yn y ffordd rydym yn meddwl am wirfoddoli a’r ffordd y mae’n newid.
Adlewyrchu ar y gynhadledd
Fe dynnodd y gynhadledd yma sylw at yr heriau gwirioneddol sy’n wynebu siopau Masnach Deg annibynnol, y grwpiau cymunedol, a’r sefydliadau bach ledled y DU. Ond, fe atgoffodd pawb fod yna angerdd ac ysbryd cymunedol cryf i barhau’r mudiad.
Diolch yn fawr iawn i BAFTS am drefnu’r digwyddiad. Edrychwn ymlaen at weld beth sy’n dod nesaf i Fasnach Deg yng Nghymru.
Dysgwch fwy am BAFTS: bafts.org.uk
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu cynhadledd 2027 yn Sheffield, gallwch gofrestru eich diddordeb yma.