Masnach Deg: Sirchau dyfodol am goedwigoedd trofannol
Mai 27, 2024
Mae saith deg tri y cant o’r holl ddatgoedwigo trofannol yn cael ei achosi gan nifer fach o nwyddau amaethyddol allweddol, gan gynnwys coffi a cacao. Fodd bynnag, mae gyda Masnach Deg rol allweddol i chwarae wrth sicrhau dim datgoedwigo o goedwigoedd trofannol.
Mae llawer o’r bwyd a diod a fwytawn yng Nghymru yn cael ei dyfu gan gymunedau ffermio sydd ar reng flaen yr argyfwng newid yn yr hinsawdd – cymunedau sydd wedi cyfrannu lleiaf at yr argyfwng hinsawdd ond eto, sy’n dioddef fwyaf yn sgil ei ganlyniadau. Te, coffi, cacao a bananas yw dim ond ychydig o’r nwyddau hyn, ac mae pob un ohonynt yn brif gynnyrch rheolaidd sydd yn cael eu bwyta yma yng Nghymru.
Drwy sicrhau incwm teg i ffermwyr lleol, maen nhw’n gallu addasu a goroesi’r argyfwng hinsawdd yn well. Mae safonau diogelu’r amgylchedd yn elfen allweddol o’r broses ardystio, a thrwy hyfforddiant, mae ffermwyr yn cael eu cefnogi i newid i arferion sy’n fwy ecogyfeillgar, fel annog bywyd gwyllt i helpu i reoli plâu a chlefydau.
Yn ychwanegol, ers 2019, mae Masnach Deg wedi cynnwys meini prawf dim datgoedwigo hefyd, sy’n golygu, yn ogystal â chefnogi ffermwyr, y gallwn leihau datgoedwigo a fewnforiwyd yng Nghymru hefyd, drwy ddewis cynnyrch Masnach Deg.
Beth yw coedwigoedd trofannol?
Mae coedwigoedd trofannol ein planed yn eistedd tua 28 gradd i’r gogledd neu i’r de o’r cyhydedd. Maen nhw’n hanfodol i fywyd ar y Ddaear. Maen nhw’n amsugno symiau enfawr o garbon, yn cynhyrchu ocsigen, yn cynnal y cylch dŵr, ac yn chwarae rhan sylweddol mewn cynnal yr hinsawdd fyd-eang.
Mae coedwigoedd trofannol yn fannau problemus ar gyfer bioamrywiaeth, ac yn gartref i tua 80% o’r rhywogaethau sydd wedi’u cofnodi. Gall un hectar gynnwys 200 o rywogaethau o goed, a mwy na 40,000 o rywogaethau o bryfed.
Coedwigoedd trofannol a datgoedwigo
Yn y 20 blwyddyn diwethaf, mae’r byd wedi colli digon o goed i orchyddio Cymru 200 gwaith drosodd!
Mae coffi a choco ymhlith rhai o’r eitemau sy’n cael eu tyfu sy’n gyrru datgoedwigo. Felly, mae chwilio am farc Masnach Deg mor bwysig i leihau ein heffaith ar ddatgoedwigo.
Sut allaf cefnogi coedwigoedd trofannol?
- Cystadleuaeth Celf Ieuenctid Cymru Masnach Deg
- Mae Masnach Deg yn dathlu 30 mlynedd, ac rydym yn cynnal cystadleuaeth gelf sy’n cyd-fynd â Pythefnos Masnach Deg 2024. Rhwng yr oedrannau 4-16? Ceisiwch am ein cystadleuaeth celf ac enillwch wobr!
- Chwilio am y marc Masnach Deg
- Cefnogi gwaith elusen Maint Cymru
Mae Maint Cymru yn elusen unigryw sy’n gwneud Cymru’n rhan o’r ateb byd-eang i newid hinsawdd. Rydyn nhw’n yn gweithio gyda phobl frodorol a phobl leol ar draws y byd i dyfu coed a diogelu o leiaf 2 filiwn hectar o goedwigoedd trofannol – ardal o faint Cymru. Rydym yn cefnogi ei ymgyrchu i galw ar Gymru i ddod yn Genedl Dim Datgoedwigo gyntaf y byd.