Dyfodol Cynaliadwy

Please log in to access your purchased courses.

Mae yna symudiad mawr tuag at ddatblygu cynaliadwy ar waith. Gyda’r angen i bontio at economi werdd sy’n tyfu’n gyson, mae angen i ni ddeall y cyd-destun newydd rydym yn gweithredu ynddo.

Rydym yn arweinwyr yn y maes cynaladwyedd, yn delio gyda problemau cadwyni cyflenwi wedi’u hymgorffori a chyflawni datrysiadau gwerth cymdeithasol. Felly, mae Cymru Masnach Deg mewn sefyllfa unigryw i gyflwyno cwrs ar ddeall y dull gwerthoedd newydd sy’n angenrheidiol i ffynnu mewn economi werdd newydd.


Mae ein gweithdai i bawb, yn enwedig y bobl ganlynol:

Gweithwyr sydd am gael cyflwyniad cynhwysfawr i gynaladwyedd a chamau gweithredu ymarferol.
Caffael diddordebau gweithwyr proffesiynol mewn cadwyni cyflenwi cynaliadwy.
Athrawon sydd am gyflwyno pynciau dinasyddiaeth fyd-eang, prynwriaeth a chynaladwyedd i’ch myfyrwyr.
Unigolion sydd am gwyro eu gyrfa neu sydd â diddordeb yn y maes cynaladwyedd.

Y pynciau allweddol yr ymdrinnir â hwy

  • Cyfrifoldeb byd-eang a deddfwriaeth Cymru
  • Cynaladwyedd a Sero Net;
  • Cadwyni cyflenwi a phrynu;
  • Cytundebau a pholisi hinsawdd rhyngwladol;
  • Camau gweithredu ymarferol i unigolion a sefydliadau.

Deilliannau dysgu

  • Archwilio cysylltiadau byd-eang.
  • Deall deddfwriaeth gyfredol.
  • Diffinio cynaladwyedd
  • Ystyried cadwyni cyflenwi a’u costau allanol.
  • Trafod polisi masnach a sut mae’n effeithio ar gynaladwyedd.

Deall gyfrifoldeb byd-eang

Ystyried y cysyniad o gyfrifoldeb byd-eang a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Archwilio cysylltiadau byd-eang ac ystyried eu hystyr yn ein bywydau ein hunain. Rydym yn archwilio ein gwerthoedd ac yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau sy’n defnyddio ein gwerthoedd mewn ymddygiad cyfrifoldeb byd-eang.

Gwersi

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cysylltiadau Byd-Eang Cysylltu'n Gwerthoedd I Gyfrifoldeb Byd-Eang

Yr hun rydym ni'n prynu

Yn y modiwl yma rydym yn ystyried y cysyniad o gynaladwyedd, yr hyn y mae Masnach Deg yn ei wneud a sut mae rhai sefydliadau’n dechrau pontio tuag at fusnesau cynaliadwy. Yna rydym yn ystyried yr her Sero Net a’r pethau rydym yn eu prynu. Rydym yn ystyried cymhlethdod cadwyni cyflenwi a phroblemau cadwyni cyflenwi sydd wedi’u hymgorffori. Rydym yn ystyried amrywiaeth o gamau y gall gweithleoedd ac unigolion eu cymryd i fod yn fwy cynaliadwy.

Gwersi

Beth yw ystyr cynaladwyedd? Yr hun rydym ni'n prynu Cadwyni cyflenwi

Y cyd-destun rhyngwladol

Yn olaf, rydym yn edrych yn fanwl ar brosesau’r DU, cyn archwilio sut mae rheoleiddio rhyngwladol yn effeithio ar allu’r llywodraeth i weithredu polisi’r hinsawdd.

Gwersi

Cytundebau masnach gynaliadwy Cyfiawnder masnach Beth ydym ni wedi dysgu?