Addysg
Ysgolion
Mae Masnach Deg yn dechrau gydag addysg ac mae’n bwysig dysgu plant a phobl ifanc am eu heffaith yn y byd. Rydym yn darparu ystod o adnoddau addysgu cynradd ac uwchradd am ddim i gefnogi dysgu byd-eang yn eich ystafell ddosbarth trwy’r cynllun ysgolion Masnach Deg sy’n cael ei redeg gan Y Sefydliad Masnach Deg. Mae’r adnoddau hyn yn cwrdd â meini prawf cwricwlwm i Gymru ac un o’i bedwar pwrpas i gynorthwyo dysgwyr i ddod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus Cymru a’r byd.
Gan ddefnyddio’r offer hyn, gallwch chi ddysgu disgyblion am Fasnach Deg a materion byd-eang o’r feithrinfa i’r ysgol uwchradd a darparu heriau wythnosol hwyliog i helpu’ch disgyblion i ddysgu am, a mynd i’r afael â, newid hinsawdd. Yn well byth, mae’r mwyafrif o adnoddau ar gael yn Gymraeg.
Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer Gwobr Ysgol Masnach Deg i ennill cydnabyddiaeth am waith eich ysgol ar Fasnach Deg.
Cymerwch olwg ar ein hadnoddau sydd ar gael.
Colegau a phrifysgolion
Gall eich coleg neu brifysgol ddod yn rhan o’r mudiad Masnach Deg. Mae prifysgol neu goleg Masnach Deg wedi ymrwymo i werthu a hyrwyddo nwyddau Masnach Deg ac addysgu ei myfyrwyr a’i staff am Fasnach Deg.
Mae Gwobr Prifysgol a Choleg Masnach Deg yn cydnabod sefydliadau sydd wedi ymgorffori arferion moesegol a chynaliadwy trwy eu cwricwlwm, caffael, ymchwil ac ymgyrchoedd. Mae’r wobr yn cael ei rhedeg gan y Sefydliad Masnach Deg.
Os ydych chi’n goleg neu’n brifysgol, cysylltwch â ni i ddarganfod sut y gall eich coleg neu brifysgol gymryd rhan a sut y gallwn weithio gyda chi.
Os ydych chi’n fyfyriwr coleg neu brifysgol ac yr hoffech weithio yn y sector Masnach Deg, darganfyddwch fwy am ein cyfleoedd gwirfoddoli a lleoli.