Paned, Planed a Phrynwyr

Dewch i’r digwyddiad Paned, Planed a Phrynwyr ar Ddiwrnod Coffi Rhyngwladol am sesiwn panel a holi ac ateb ar-lein.

Byddwn yn archwilio gorffennol a phresennol diwydiant coffi’r byd, gan glywed gan bobl sy’n rhan o’r gadwyn cyflenwi coffi.

Dewch i ddarganfod o ble y daw’r enw Arabica, sut mae’n cael ei dyfu a’i rostio ar hyn o bryd, ac effaith Argyfwng yr Hinsawdd.

Partneriaid:

  • Sefydliad Diwylliannol Mwslimaidd Cymreig (SDMC)
  • WELCOME
  • Cymru Masnach Deg