Taith Masnach Deg Ffion: Annwyl Dorothy

Mawrth 30, 2017

Annwyl Dorothy,

Rwyt yn rhannu’r un enw a fy Nain, a bywyd tebyg: magu plant a gweithio’r tir. Ond nid yw’r tebygrwydd yn treidido llawer tyfnach na hynny. Roedd ganddi hawliau cyfartal i’r tir. Hawliau cyfartal i’r incwm. Roedd y gyfraith yn gwarchod fy Nain os oedd ei gwr am farw. Ond nid yw dy sefyllfa mor gyfartal. Mae effeithiau patholegol y baich hwn yn amlwg yn y llawenydd i ti belydru wrth sôn am y faith dy fod nawr yn berchennog tir gyda chymorth Masnach Deg.

Mae anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn hollbresennol mewn amaethyddiaeth. Mae menywod yn cynhyrchu tua 80% o fwyd y byd – ystadegyn bras oherwydd y prinder data rhyw agregiedig sydd mewn amaeth. Mae ffermwyr benyw ar draws y byd yn parhau i wynebu gwahaniaethu a rhwystrau di-baid. Meddai Kath Shaw, ffermwr ceirw yng Nghymru a wnaethom gyfarfod yn ystod pythefnos Masnach Deg 2016: ‘Mae’r materion y mae ffermwreigiau yn eu hwynebu yn Uganda yn debyg i’r rhagfarn wyf wedi gorfod delio â fel ffermwr benywaidd yn y DU.” Yn y byd sy’n datblygu yn arbennig, chi yw’r asgwrn cefn yr economi, ond eto yr ydych yn derbyn ond ffracsiwn y credydau, hyfforddiant, mewnbynnau a thechnolegau (hadau a gwrtaith) a fel soniais gynt, tir o’i gymharu a dynion yn yr un sector.

Gyda diolch i Finlays Kenya; arloesol yn eu hymdrechion i weld cwmnïau aml-genedlaethol yn ffurfio partneriaethau gyda tyddynnwyr, yr oeddet  yn sefyll o fy mlaen yn dirfeddiannwr. Mae eu gwaith gyda ffermwyr tyddynau fel ti a dy ŵr Edward yn y bryniau cyfagos yn golygu bod eu holl alldyfwyr yn ardystiedig Fasnach Deg ag o ganlyniad mae eich teuluoedd, cymunedau ag amgylchedd yn buddianu.

Mae cydraddoldeb rhyw yn awr yn un o egwyddorion allweddol Masnach Deg. Ei nod yw grymuso menywod fel y gallant gamu i fyny i rolau sydd yn draddodiadol wedi’w gwadu. Mae buddsoddi mewn merched gwledig fel ti wedi’w ddangos i fod yn allweddol i gynyddu cynhyrchedd, gwella bywoliaeth a sicrhau diogelwch bwyd. Mae sicrhau cydraddoldeb rhyw mewn amaeth yn golygu grymuso pawb i adeiladu cymunedau lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi’n hafal

Felly Dorothy, diolch. Am rannu dy stori – ac am geisio fy nysgu sut i bigo te! Am ganiatáu i mi weld drost fy hunan bod Masnach Deg yn chwarae rhan bwysig yn y frwydr yn erbyn anghydraddoldeb rhyw. I ti, fy Nain a menywod yn y maes amaeth ar draws y byd sy’n brwydro yn erbyn gwahaniaethu, deddfau annheg a normau diwylliannol.
Dyma i newid. Dyma i ti Dorothy!

Dymuniadau gorau,

Ffion.