Rydym yn dathlu pen-blwydd Masnach Deg yn 30 oed yn y DU

Ebrill 22, 2024

(dangosodd rhannu o’r blog yma ar wefan y Fairtrade Foundation yn wreiddiol)

Mae’n 30 mlynedd ers i’r cynhyrchion ardystiedig Masnach Deg cyntaf daro silffoedd archfarchnadoedd. Ers hynny, mae Masnach Deg nid yn unig wedi arloesi ffordd unigryw, fwy teg o fasnachu – ac wedi dangos sut mae’n gwneud gwahaniaeth diriaethol – ond mae wedi dod yn label moesegol mwyaf cydnabyddedig a dibynadwy y byd hefyd.

Eleni, mae’n ddathliad dwbl, wrth i ni hefyd barhau i ddathlu’r ffaith ei bod hi wedi bod yn 15 mlynedd ers i ni ddod yn Genedl Masnach Deg gyntaf y byd. Rydym wedi nodi hyn drwy roi grantiau ar gyfer digwyddiadau ar draws Cymru.

Tu ôl i’r label Masnach Deg, mae cymuned fyd-eang o filiynau wedi bod yn gweithio tuag at greu nwyddau sydd wedi’u cynhyrchu’n fwy cyfrifol a’u prisio’n deg, fel rhan o fyd tecach i bawb. Mae hynny’n cynnwys mwy na 2 filiwn o ffermwyr a gweithwyr mewn 58 o wledydd, rhai o’n brandiau mwyaf poblogaidd o de, coffi a siocled, a chymunedau Masnach Deg ar draws Cymru, gan gynnwys trefi, dinasoedd, ysgolion, addoldai a siopau.

Er gwaethaf y llwyddiant hwn, mae ein system fwyd fyd-eang yn dal i fod yn annheg. Mae ffermwyr yn rhan o gadwyn lle mae pŵer yn cael ei ddosbarthu’n annheg. Maen nhw’n aml yn cael eu gorfodi i werthu eu cnydau am lai o arian nag y maen ei gostio i dyfu.

Dyma Nimrod

Fe wnaeth Nimrod siarad â ni y llynedd am rai o’r materion y mae wedi’u hwynebu fel cynhyrchydd coffi yn Uganda. Fe wnaeth alw ar arweinwyr y byd i gymryd newid hinsawdd o ddifrif. Fel ffermwr Masnach Deg, mae Nimrod wedi hyrwyddo Masnach Deg fel ateb i rai o’r materion sydd wedi cael eu gweld gan gynhyrchwyr coffi. Ar ei ymweliadau niferus â Chymru, mae Nimrod wedi cyfarfod â chymunedau ar draws y wlad i ledaenu’r neges Masnach Deg bod y dyfodol yn deg.

Gallwch gefnogi cydweithfa coffi Nimrod, trwy brynu Jenipher’s Coffi

Dewch i ddathlu 30 mlynedd gyda ni eleni drwy gefnogi Masnach Deg – dyma rywfaint o syniadau

  1. Dewis cynnyrch Masnach Deg

Erbyn hyn, mae dros 6,000 o gynnyrch Masnach Deg ar gael yn y DU. Mae’r rhain yn amrywio o glasuron Masnach Deg fel coffi, siocled, bananas a the, i’r rhai mwy anarferol; blodau, bagiau tote ac aur. Mae nifer o’r cynnyrch hyn yn cael eu gwerthu gan fusnesau bach yma yng Nghymru hefyd – darganfyddwch ble mae eich siop Masnach Deg agosaf.

  1. Arwyddo’r Ddeiseb: Diogelu Coedwigoedd gyda Ffermwyr Masnach Deg 

Yn 2024, mae Llywodraeth y DU wedi addo symud ymlaen â deddfau newydd, gyda’r nod o atal datgoedwigo sy’n gysylltiedig â’r nwyddau rydym yn eu prynu o dramor.

Dywedwch wrth Lywodraeth y DU i ddyrannu’r cyllid y gwnaethon nhw addo, a sicrhau nad yw newidiadau cyfreithiol i fynd i’r afael â datgoedwigo yn rhoi’r baich ar ffermwyr fel Nimrod.

  1. Cofrestru i glywed mwy

Cofrestrwch i’n rhestr bostio i glywed mwy am y manteision o ddewis cynnyrch Masnach Deg, sut y gallwch gymryd rhan, a digwyddiadau yn eich ardal chi.

  1. Dathlu! 

Ewch i’ch siop neu archfarchnad Masnach Deg lleol i nôl siocled, gwin neu sudd Masnach Deg, a mwynhewch! Neu, beth am gysylltu â’ch grŵp Masnach Deg lleol a gweld os ydyn nhw’n dathlu gyda digwyddiad? 

Sut bynnag rydych chi’n dewis dathlu, rydyn ni eisiau dweud diolch enfawr i chi gyd. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i weld beth fydd yn digwydd yn y 30 mlynedd nesaf!