Gogledd Iwerddon yn Dathlu

Gorffennaf 11, 2017

Llongyfarchiadau

Ar 19fed o Fehefin 2017, mi gafodd Gogledd Iwerddon ei ddatgan yn ranbarth datganoledig Masnach Deg, gan ymuno a Lloegr a’r Alban fel gwledydd a rhanbarthau Masnach Deg.

Mae Gogledd Iwerddon wedi’w ddatgan yn ranbarth datganoledig Masnach Deg ar ôl cyflawni prif dargedau o gael ei holl pum dinas a chwech o’i 11 o gynghorau (a’I trefi) yn cyrraedd statws Masnach De. Mae’r llywodraeth ganolog, sefydliadau addysg uwch, ysgolion, mannau addoli, busnesau a gweithleoedd hefyd wedi chwarae rhan hanfodol yn y fenter, gyda llawer wedi cyrraedd neu’n gweithio tuag at achrediad Masnach Deg. Mae 18 o drefi yng Ngogledd Iwerddon ac un ynys wedi ennill statws Masnach Deg gyda’r 17 sy’n weddill ar hyn o bryd yn gweithio tuag ato, gyda grwpiau gweithredol. Mae dwy ran o dair o sefydliadau addysg uwch wedi cyflawni neu’n gweithio tuag at y safon Masnach Deg.

Sylwadau a negeseuon o longyfarchiadau: 

Steven Agnew MLA, Cadeirydd y Grŵp Hollbleidiol ar Fasnach Deg: “Rwy’n falch iawn bod Gogledd Iwerddon wedi cyrraedd statws Masnach Deg rhanbarthol. Mae hyn wedi dod yn sgil y gwaith caled ac ymdrechion yr ymgyrch Masnach Deg lleol, a hyrwyddwyd gan Dr Christopher Stange. Mae’r cyflawniad hwn yn nodedig gan iddo ddod i ffrwyth heb gefnogaeth y Swyddfa Weithredol, fel yn achos rhanbarthau datganoledig eraill. Bydd statws Masnach Deg yn sicrhau gwell canlyniadau i gynhyrchwyr mewn gwledydd sy’n datblygu, yn ogystal â phobl Gogledd Iwerddon fel defnyddwyr.”

Peter Gaynor, Cyfarwyddwr Gweithredol Masnach Deg Iwerddon: “Rydym wedi gweld awdurdodau lleol, grwpiau Trefi Masnach Deg a’r Grŵp Hollbleidiol ar Fasnach Deg yn gwneud llawer iawn yn y blynyddoedd diweddar yng Ngogledd Iwerddon i hyrwyddo Masnach Deg. Mae’n gamp go iawn o’r holl wwaith hwn y maent yn awr yn dod yn rhanbarth datganoledig Masnach Deg – Ac wrth gwrs Christopher Stange ei hun yn haeddu diolch yn fawr iawn personol am ei holl waith. Dechreuodd Masnach Deg gyda gwaith ymroddedig o grwpiau bach o bobl ac mae hyn yn enghraifft wych o’r grwpiau hyn yn dod at ei gilydd i gyflawni rhywbeth mwy gyda’i gilydd. ”

Dywedodd Michael Gidney, Prif Weithredwr Sefydliad Masnach Deg y DU: “Llongyfarchiadau i’r holl gymunedau, unigolion a sefydliadau sydd wedi gweithio’n ddiflino dros lawer o flynyddoedd yn hyrwyddo Masnach Deg ar draws Gogledd Iwerddon ar y llwyddiant hwn. Mae Masnach Deg wedi dangos gyda’n gilydd gallwn greu newid go iawn i gymunedau ffermio mewn gwledydd syn datblygu. Ac eto mewn gormod o leoedd, mae cynnyrch Masnach Deg yn parhau i fod eithriad, a nid yn beth rheolaidd. O Stormont i grwpiau cymunedol, eglwysi i siopau cornel, mae’n wych gweld pobl Gogledd Iwerddon yn dod o hyd i ffyrdd newydd i uno cymunedau a sefyll i fyny ar gyfer ffermwyr a gweithwyr sy’n haeddu gwell bargen. Mae dod at ei gilydd fel rhanbarth datganoledig trwy Fasnach Deg yn anfon neges bwerus y bod Gogledd Iwerddon wedi ymrwymo i roi terfyn ar y sgandal o fasnach annheg.”

Dr Christopher Stange, Ysgrifenydd y Grŵp Hollbleidiol ar Fasnach Deg a Conswl Anrh i St Vincent a’r Grenadines i Ogledd Iwerddon: “Mae’r ymrwymiad rhanbarthol yma i’r byd sy’n datblygu trwy weithrediad lleol a phrynu cynnyrch Masnach Deg wedi dod i’r blaen oherwydd degawd o weithrediad gwirfoddol, yn uno pob rhan o’r gymdeithas. Trwy Fasnach Deg, rydym yn medru sicrhau dyfodol gwell ar gyfer y rhai llai ffodus, a chreu etifeddiaeth barhaol a chysylltiad rhwng y byd sy’n datblygu a Gogledd Iwerddon. ”

Hoffai pawb yn Cymru Masnach Deg longyfarch pawb a oedd yn rhan o’r ymgyrch!

Darganfyddwch fwy YMA.