Annwyl Dref Masnach Deg…

Medi 22, 2017

Gwahoddiad i drefi Masnach Deg…

Mae 4 bwrdeistref yn rhan Ogleddol Gwlad Belg eisiau ysbrydoli Trefi Masnach Deg eraill i gymryd rhan mewn prosiect ar y cyd.

Maen nhw’n mynd i anfon cardiau post gyda “cyfarchion teg” i bob Tref Masnach Deg sy’n cymryd rhan. Bydd pob Tref Masnach Deg sy’n cymryd rhan yn y prosiect hwn yn derbyn bwndel o gardiau post gennym o’r Trefi Masnach Deg eraill sy’n cymryd rhan.

Ydych chi’n Dref Masnach Deg? Hoffech chi gymryd rhan?
Os yw eich Tref Masnach Deg eisiau cymryd rhan yn y prosiect hwn, anfonwch y canlynol:

  • Llun neis (digidol, datrysiad uchel os yn bosib) o ddelwedd fasnach deg nodweddiadol o’ch bwrdeistref
  • Syniad Masnach Deg ysbrydoledig o’ch tref- (mewn un frawddeg) er enghraifft. “bob blwyddyn, rydym yn trefnu brecwast masnach deg”
  • Cyfeiriad e-bost at Leen Van den Putte o ddinas Turnhout, Gwlad Belg: noordzuid@turnhout.be neu 0032 (0) 14 40 96 30.