Trefi Masnach Deg; yn cysylltu cymunedau ar draws y byd
Hydref 16, 2017Ffion, Cydlynydd Prosiect a Cyfathrebu yng Nghymru Masnach Deg sydd yn adlewyrchu ar Gynhadledd Rhyngwladol Trefi Masnach Deg, 2017 yn Saarbrücken, Almaen…
Cynrychiolais Cymru Masnach Deg yn ddiweddar yng Nghynhadledd Rhyngwladol Trefi Masnach Deg 2017 yn Saarbrucken, yr Almaen. Mae’r gynhadledd yn ddigwyddiad blynyddol, sy’n dod â chefnogwyr Masnach Deg o bob cwr o’r byd at ei gilydd i drafod Masnach Deg, a’r cynllun trefi Masnach Deg yn arbennig. Eleni, daeth 200 o gynrychiolwyr o 24 o wledydd, gan gynnwys Japan, Canada, Sbaen a Korea, at ei gilydd i drafod y newyddion diweddaraf ym myd Masnach Deg; i fynd i’r afael â heriau, i ddysgu ar y cyd ac i ysbrydoli ei gilydd!
Y mudiad Trefi Masnach Deg
Mae 38 o drefi Masnach Deg yng Nghymru, cyfanswm o 631 yn y DU, a 2,000 ar draws y byd. Cafodd y cyfanswm hwnnw ei ddiweddaru yn ystod y gynhadledd, ac yn hollol amserol. Mae’n gyflawniad anhygoel, sy’n tynnu sylw at ehangder a chryfder yr ymgyrch wych hon sy’n cael ei harwain gan gymdeithas sifil, ac sy’n danwydd pellach i yrru’r mudiad ymlaen i fwy o drefi a gwledydd ar draws y byd. Cynhadledd eleni oedd yr 11eg yn y gyfres, a chynhaliwyd y gynhadledd am y tro cyntaf rhwng tair gwlad gyfagos; Ffrainc, yr Almaen a Lwcsembwrg.
Datblygiadau diweddaraf
Teithiais gydag Elen Jones (Cydlynydd Cenedlaethol Cymru Masnach Deg, sydd ar secondiad ar hyn o bryd i swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol), a gadeiriodd ddadl gyhoeddus wych gyda phanel o Aelodau Senedd Ewrop a chynrychiolwyr y Cenhedloedd Unedig ar rôl yr Undeb Ewropeaidd mewn hyrwyddo Masnach Deg. Mae’r newid mewn bargeinion masnach a Brexit yn ddim ond dau ffactor sy’n effeithio ar gynhyrchwyr bach ar draws y byd. Cymerais ran mewn gweithdy oedd yn canolbwyntio’n fwy manwl ar un nwydd a fydd yn fuan, yn gweld newidiadau mawr yn y ffordd y mae’n cael ei fasnachu: siwgr. Mae polisïau’r UE newydd newid, a bydd hyn yn arwain at anawsterau i gynhyrchwyr bach, sy’n ymladd yn erbyn cewri sy’n rheoli llawer o siwgr y byd; ei argaeledd a’i bris!
I mi, roedd llawer o’r themâu cyffredin, fel cefnogi masnach leol a Masnach Deg, a dathlu a dysgu o gyflawniadau gwledydd bychain fel Cymru, Gwlad Belg, Ecwador a Lebanon, yn wych! Fel merch ffermwr o wlad fach fel Cymru, mae cynhyrchu cynaliadwy a phrisiau marchnad amrywiol yn bynciau y dysgais amdanynt o oedran ifanc. Felly, roedd hi’n ddiddorol imi glywed dro ar ôl tro am wahanol ymgyrchwyr sy’n tynnu sylw at yr angen am Fasnach Deg mewn gwledydd datblygedig, yn ogystal â gwledydd sy’n datblygu. Rwy’n credu bod Masnach Deg yn llawer mwy na phris teg a phremiwm atodol – mae’n ymwneud â rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r adnoddau sydd eu hangen ar ffermwyr a chynhyrchwyr i gynhyrchu cynnyrch cynaliadwy, o ansawdd da.
Ffion gyda Bernard o WFTO Affrica a’r Dwyrain Canol a Nicholas yn cynrychioli mudiad Trefi Masnach Deg yn Ghana
Cymru â’r byd
Rhoddodd cynrychiolwyr byd-eang y newyddion diweddaraf am newidiadau yn y ffocws gan amrywiol sefydliadau Masnach Deg. Siaradodd aelod o Fasnach Deg Rhyngwladol am sut maen nhw’n buddsoddi mewn cyflog byw. Soniodd Sefydliad Masnach Deg y Byd am newidiadau mewn systemau labelu, a thynnodd yr Ymgyrch Trefi Rhyngwladol sylw at yr angen i ymgysylltu â chynulleidfaoedd iau o fewn y mudiad.
Mae’r Gynhadledd Trefi Masnach Deg yn darparu llwyfan hefyd ar gyfer cydlynwyr cenedlaethol a’u cynrychiolwyr / cywerthyddion, i rannu’r newyddion diweddaraf o safbwynt cenedlaethol, gyda minnau’n cynrychioli Cymru eleni. Mae Cymru wedi dangos ei hymrwymiad arloesol i gydraddoldeb a thegwch, fel Cenedl Masnach Deg gyntaf y byd ac yn ddiweddar, y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu ar Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, ar ffurf Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015). Fel yr wyf wedi ei nodi sawl gwaith o’r blaen, rydym yn wlad fechan, ond rydym yn cymryd camau anferth, ac yn ysbrydoli llawer ar hyd y ffordd!
Criw Cynhadledd Trefi Masnach Deg Rhyngwladol 2017
I mi, un o uchafbwyntiau’r gynhadledd oedd cyfarfod â fy nghyfoedion o bob cwr o’r byd, sy’n rhannu’r un angerdd a’r weledigaeth: sef gweld byd sy’n masnachu’n deg. Roedd yn arbennig o wych i gael cyfle, fel eiriolwr cydraddoldeb rhywiol balch, i gwrdd â merched rhyfeddol, o Guinea i Japan; Ecwador i’r Almaen, sy’n gweithio’n galed i greu cyfleoedd cyfartal, a masnach gyfartal i bawb.
Un o fy hoff ddywediadau ydy; ‘It does not matter where the people are, have the people’s interest at heart, and everything else will fall in line’. Does dim gwadu bod y mudiad Trefi Masnach Deg a’r mudiad Masnach Deg yn ehangach, yn un o’r bobl; yn un sy’n cydweithio, yn grymuso, yn arloesi ac yn newid.