Daw’r Nadolig

Rhagfyr 7, 2017

Syniadau am Anrhegion Nadolig Meddylgar

Mae’r Nadolig yn ddi-os yn amser i roi a derbyn. Mae hefyd yn amser delfrydol i ddefnyddio’ch pŵer gwario yn ddoeth, a rhoi rhodd ystyrlon i’r rhai yr ydych yn eu caru. Rydym wedi llunio rhestr o’n hoff anrhegion Nadoligaidd Masnach Deg, gyda phob un â chysylltiad â Chymru. Os ydych chi’n chwilio am rywbeth ychydig yn wahanol, sydd yn gwneud da, fe gewch ddigon o ysbrydoliaeth yma…

I’r person sy’n hoff o fwyd

Mae’r sector coffi yn tyfu’n gyflym yng Nghymru; gyda ffa o safon uchel o bob cwr o’r byd yn cael eu rhostio yma yng Nghymru. Rydym wrth ein bodd yn gweld mwy a mwy o gwmnïau coffi yng Nghymru yn dewis gwerthu coffi Masnach Deg ardystiedig. Un o’n ffefrynnau yw Cariad Coffee. Mae’r coffi blasus, triphlyg ardystiedig hwn yn cyfuno ffa o Sumatra, Ethiopia ac America Canolog. A pha well enw a’r anrheg i’r yfwr coffi rydych yn ei garu’r Nadolig hwn?

I’r person sy’n hoff o emwaith

Bu eni sylfaenwraig Kaligarh, Jyoti ar arfordir gwyntog Cymru. O dreftadaeth Indiaidd a Nepali, sefydlodd Jyoti Kaligarh yn 2013. Mae Kaligarh fel cwmni yn talu teyrnged i gelf a chrefftwyr rhanbarth yr Himalaya. Mae pob cynnyrch wedi’i wneud â llaw; gan wneud darnau unigryw, hardd i’w trysori! Prynwch ar-lein.

I’r plantos

Babi Pur yw’r lle i fynd yng Nghymru i gael eitemau moesegol i blant. Mae eu hamrywiaeth yn ymestyn o ddillad organig, i amrywiaeth o ddyfeisiau i rieni ac wrth gwrs ystod eang o deganau gwych. O deganau meddal i deganau pren hyfryd â gwneud a llaw, mae’n siŵr y dewch o hyd i anrheg Masnach Deg i ddiddanu rhai bach yma. Rhai o’n ffefrynnau yw’r anifeiliaid lliwgar hyn a wnaed yn Sri Lanka gan Lanka Kade.

I’r un sy’n hoff o ffasiwn

Daw lansiad diweddar gwmni grysiau-t moesegol newydd yng Nghaerdydd yn amserol ar gyfer adeg y Nadolig. Dyma’r cyntaf o gasgliad newydd Aled – dyluniadau cŵl, cyfoes ar grysau-t cotwm ardystiedig Masnach Deg/Organig. Meddai Aled: ‘maen nhw’n cael eu hargraffu ar grysau-t dynion, ond maen nhw wedi’u cynllunio i bawb!’ Ar gael i’w prynu gan Fair Do’s yng Nghaerdydd neu archebwch yn uniongyrchol drwy e-bostio aled_p@hotmail.com.

I’r garddwr

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae Love Zimbabwe yn elusen fasnachu ardystiedig BAFTS wedi ei lleoli yn y Fenni, Sir Fynwy. Maent yn gweithio gyda chymunedau gwledig yn Zimbabwe i greu crefftau a defnyddiau hardd wedi ei masnachu’n deg ar gyfer y farchnad fyd-eang. Mae ganddynt gerfluniau anifeiliaid sydd yn berffaith ar gyfer gerddi, yn ogystal â’r blodau prydferth hyn, sydd yn sicr o oleuo unrhyw ardd drwy fisoedd tywyll y gaeaf. Maent ar gael i’w prynu o’u siop Etsy ar-lein, neu yn Fair and Fabulous yng Nghastell Newydd Emlyn a Fair Do’s yng Nghaerdydd.

I’r cefnogwr chwaraeon

Yn ddiweddar cyflwynodd ein ffrindiau yn Bala Sport ystod newydd o beli rygbi Masnach Deg. Wedi’i gynllunio ynn Nglasgow a’u cynhyrchu yn India, lansiwyd peli rygbi Masnach Deg Bala yng Nghymru yn gynharach eleni! O bêl fach, i bêl gêm broffesiynol o’r radd flaenaf – mae yna ddigon i’w ddewis. Bêl siâp anghywir i chi? Peidiwch â phoeni, mae gan Bala Sport ystod wych o beli troed Masnach Deg a mwy ar gael ar ei gwefan.

O dan £5/£10/£20

Os ydych chi’n edrych am anrheg na wnaeth dori y banc, mae yna lawer o anrhegion Masnach Deg unigryw, hwyliog a fforddiadwy ar gael mewn siopau lleol ledled Cymru – fel yr eliffant bach hwn a wneir o Fflip Fflops a ailgylchwyd o draethau Kenya. Mae’r rhain ar gael yn Siop Eighteen Rabbit yn Y Gelli, yn ogystal â siopau Masnach Deg eraill ledled Cymru. Dewch o hyd i restr lawn o siopau yma.

Rhowch anrhegion y Nadolig hwn gyda’r wybodaeth y byddwch chi’n gwella bywydau rhai sydd mewn angen, yn ogystal â gwneud y rheini sy’n derbyn yn hapus. Mae’n sicr o ddyblu’r ‘feel good factor’. Mwynhewch Nadolig Masnach Deg.