Grwpiau Masnach Deg wedi eu cydnabod yng Ngwobrau Cymru Affrica
Chwefror 2, 2018Ar ddydd Llun, 29 Ionawr 2018, casglodd dros 160 o bobl yn seremoni wobrwyo Cymru Affrica yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i ddathlu gwaith sefydliadau a grwpiau Datblygu Rhyngwladol a Masnach Deg yng Nghymru. Cyflwynwyd y gwobrau i enillwyr 10 categori, gan gynnwys: Arweinyddiaeth Ieuenctid, Arloesi, Cynaliadwyedd, Partneriaeth, Cynhwysiant, Cyllideb Bach, Cyfathrebu, Codi Arian, Ymgyrchoedd ac Effaith Gyffredinol. Cydnabuwyd nifer o grwpiau a sefydliadau Masnach Deg am eu gwaith.
Cymeradwywyd Grŵp Masnach Deg Dinas Powys ddwywaith; yn y categorïau Cyfathrebu a Chyllideb Bach. Meddai Cathie Jackson, Cadeirydd Grŵp Masnach Deg Dinas Powys:
“Rydym wrth ein bodd bod ein hymdrechion wedi cael eu cydnabod, mae’r gwirfoddolwyr yn gweithio’n ddiflino i ymgyrchu dros Fasnach Deg. Drwy ein cyhoeddusrwydd uniongyrchol mewn ysgolion, clybiau a’r cyfryngau, rydym wedi gallu gweithio gyda rhyw 1/3 o’r holl bobl sy’n byw yn y pentref i wella eu gwybodaeth am gynhyrchion Masnach Deg a’r cydraddoldeb y mae’n estyn i gynhyrchwyr.”
Cymeradwywyd Fair Do’s/ Siopa Teg, a leolir yng Nghaerdydd, yn uchel yn y categori Cyllid Bach hefyd, ar gyfer eu rhaglen addysg.
Cafodd yr Ymgyrch Masnach Deg mewn Pêl-droed o Sir Benfro ei enwi fel enillydd y categori Cyfathrebu, a cafodd ei ganmol yn uchel yn y categori Ymgyrchoedd hefyd. Siaradodd Sharron Hardwick, Cyfarwyddwr Sefydlol â Ffion am pam y dewisodd ddechrau’r ymgyrch, a beth oedd y gydnabyddiaeth yn ei olygu iddi (English).
Dyfarnwyd y Wobr Ymgyrchoedd i Fwrdd Masnach Deg Cyngor Tref Barri, yn dilyn eu hymgyrch ‘Peidiwch troi cefn ar Fasnach Deg’ yn erbyn penderfyniad Sainsbury’s i symud i ffwrdd o de ardystiedig Masnach Deg. Mae Ian Johnson yn esbonio ychydig am eu hymgyrh islaw.
Roedd enillwyr eraill y noson yn cynnwys Dolen Cymru, Gofal Canser Sierra Leone a Sefydliad Cefnogi Iechyd Meddwl Somaliland, o ardael Gaerdydd, Partneriaeth Siavonga Abertawe, Ysgolion Solar Giakonda yn Abertawe, Partneriaeth Gymunedol Aberhonddu – Molo yn ogystal ag Bees for Development a Tools for Self Reliance Cymru o Sir Fynwy.
Dywedodd Cat Jones, Pennaeth Partneriaeth Hub Cymru Africa: “Roedd y dathliad hwn yn ymwneud â’r cyfraniad enfawr y mae unigolion, grwpiau cymunedol ac elusennau bach yng Nghymru yn ei wneud i fynd i’r afael â materion byd-eang.” Meddai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones a rhoddodd rhai o’r gwobrau allan: “Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i ddathlu’r nifer o ffyrdd y mae pobl yng Nghymru yn gwneud y byd yn le gwell.”
Cydlynwyd y digwyddiad gan Hub Cymru Affrica gyda chyllid gan raglen Cymru i Blaid Affrica Llywodraeth Cymru.