Pythefnos Masnach Deg 2019

Ebrill 3, 2019

Mae blwyddyn arall wedi mynd heibio ac felly, pythefnos Masnach Deg wych arall!

Trefnodd grwpiau Masnach Deg lleol tua 54 o ddigwyddiadau cymunedol ar draws 15 sir, a gafodd eu mynychu gan 2750 o bobl. Ymunodd llawer o ysgolion ac eglwysi yn y digwyddiadau, ac ACau ac ASau hefyd. Cynhaliom amryw o ddigwyddiadau gwerthu cacennau, nosweithiau cwis, ciniawau Masnach Deg, a chreom banana split enfawr.

Does dim syndod bod gan Gymru statws fel Cenedl Masnach Deg!

Yn ystod y bythefnos Masnach Deg, codom ymwybyddiaeth ynghylch y pwysigrwydd o brynu cynnyrch Masnach Deg er mwyn sicrhau bod pawb ar hyd y gadwyn gyflenwi’n cael pris teg am eu gwaith. Yn ystod ein hymdrechion, roeddem yn gwahodd cefnogwyr Masnach Deg i arwyddo deiseb i ymgyrchu i geisio cael incwm byw i ddod yn realiti i ffermwyr coco yng Ngorllewin Affrica.

Mae ffermwr coco nodweddiadol yn Cote d’Ivoire yn byw ar tua 74c y dydd, er gwaetha’r ffaith bod angen i ffermwr yng Ngorllewin Affrica ennill £1.86 y dydd er mwyn ennill incwm byw. Mae hyn yn golygu bod bron pob ffermwr coco yn byw mewn tlodi.

Mae’r sefyllfa i fenywod hyd yn oed yn waeth. Mae menywod yn gyfrifol am blannu, cynaeafu a chludo ffa coco i’r farchnad ac ar ben hynny, am ofalu am blant, cario dŵr, casglu pren, coginio a glanhau. Dyma pam roedd y mudiad Masnach Deg yn canolbwyntio ar fenywod yn ystod y bythefnos eleni ac ar godi ymwybyddiaeth, fel rhan o’n hymgyrchoedd a digwyddiadau #shedeserves.

Os na wnaethoch chi lwyddo i fynychu un o’n digwyddiadau Masnach Deg, nid yw’n rhy hwyr i helpu i wneud gwahaniaeth. Mae gennych chi amser o hyd i lofnodi’r ddeiseb …

Fel arall, os nad oeddech chi’n gallu mynd i ddigwyddiad a’ch bod chi dal yn awyddus i wybod beth wnaethom ni, gallwch weld ein huchafbwyntiau yma hefyd!

Os byddwn yn gweithio gyda llywodraethau, cwmnïau a manwerthwyr i wneud yr ymrwymiadau a’r polisïau angenrheidiol, rydym yn gwybod y gallwn wneud gwahaniaeth i ffermwyr a chynhyrchwyr y cynnyrch niferus rydych yn eu defnyddio bob dydd. Dyma pam bod eich cyfraniad yn ystod y bythefnos Masnach Deg mor bwysig i ni!

Tan y flwyddyn nesaf …