Dathlu’r Athro Noel Lloyd
Mehefin 20, 2019Tristwch o’r mwyaf oedd clywed am farwolaeth yr Athro Noel Lloyd, ond roeddem eisiau cymryd yr amser hwn i ddathlu’r hyn a gyflawnodd yng Nghymru Masnach Deg.
Ymunodd Noel â Cymru Masnach Deg fel Cadeirydd yn 2011, yn fuan ar ôl camu i lawr fel Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth. Roedd Noel yn Gadeirydd penodol ar Cymru Masnach Deg a lywiodd y sefydliad yn llwyddiannus drwy heriau a newidiadau sylweddol. Roedd ei ddeallusrwydd brwd, ei gynhesrwydd personol a’i synnwyr digrifwch cudd yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn parhau i fod yn effeithiol, yn ogystal â’i ymrwymiad amlwg i wneud y byd yn lle tecach. Fel Cadeirydd Roedd yn gwbl ymrwymedig i gefnogi’r staff a’r gwirfoddolwyr yng Cymru Masnach Deg yn ogystal â gweithredwyr ledled y wlad.
Roedd Noel yn dawel ond yn effeithiol, gan adael i bawb leisio eu barnau, a sicrhau camau atebolrwydd. Roedd bob amser yn rhoi ei orau i’r gwaith, er gwaethaf y llu o ofynion eraill ar ei amser. Roedd yn credu mewn Masnach Deg, a chyfrannodd lawer o’i amser a’i ddawn i’r mudiad.
Meddai Elen Jones, cyn-Gydlynydd Cenedlaethol Cymru Masnach Deg,
“Roedd yn fraint cael gweithio gyda Noel, fel Cadeirydd Cymru Masnach Deg. Roedd yn ddyn o urddas ac amynedd, a phob amser yn gwybod y pethau iawn i’w dweud a’u gwneud. Roedd hefyd yn fentor mawr i’r tîm a bydd e’n byw ymlaen yn ein gwaith.”
Rydym yn credu bod Noel Lloyd wedi gweld mai Cymru Masnach Deg oedd y catalydd ar gyfer y mudiad Masnach Deg yng Nghymru, rhywbeth yr oedd ei gapel, ei dref a’i Brifysgol yn cefnogi. Un digwyddiad cofiadwy oedd mewn dathliad Masnach Deg yng nghanolbarth Cymru yng Nghanolfan y Morlan, nôl yn 2016. Daeth cefnogwyr o’r gymuned ynghyd â stondinau Masnach Deg, gan gynnwys adran arlwyo’r brifysgol, siop Oxfam, cynrychiolwyr Traidcraft a busnesau lleol.
Clywsom anerchiadau gan Ffion Storer-Jones, a oedd wedi bod ar daith 6 wythnos yn Affrica yn ymweld â chynhyrchwyr Masnach Deg, a Subindu Garkhel, arbenigwr cotwm o’r Sefydliad Masnach Deg. Mynychodd Noel y digwyddiad cyfan gyda’i deulu, ac roedd yn falch o gyflwyno hamper i’w enillydd. Roedd yn hapus cefnogi gweithgarwch yn ei gymuned yn ogystal â’r gwaith mwy y mae Cymru Masnach Deg yn ei wneud.
Anogodd Noel gysylltiadau rhwng cynhyrchwyr Masnach Deg a defnyddwyr, a chyfarfu ei hun â chynhyrchwyr Masnach Deg yn ystod ymweliadau pythefnos Masnach Deg.
Dywedodd Nimrod Wambette, ffermwr coffi o Uganda sydd wedi ymweld â Chymru sawl gwait.
“Trist oedd clywed am farwolaeth Noel, cyn Gadeirydd Cymru Masnach Deg. Cefais y fraint o gwrdd ag ef yn Aberystwyth pan ddeuthum draw am ymgyrchoedd pythefnos Masnach Deg 2016. Roedd Noel yn llawen ac yn angerddol am Fasnach Deg. Cyfrannodd at dwf y tosturi dwfn sydd gan bobl Cymru at gynhyrchwyr bach difreintiedig y byd. Fy nghydymdeimlad dwfn i’w deulu a’r frawdoliaeth Fasnach Deg yng Nghymru gyfan. Mai ei enaid yn gorffwys mewn heddwch.”
Mae ffydd Noel yn seiliedig ar y syniadau bod pob dyn yn gyfartal, ac yn cael eu caru. Dyma sail ein gwaith yng Nghymru Masnach Deg, bod pawb, ni waeth pwy ydynt neu ble y cânt eu geni, yn haeddu cael eu trin yn deg a chydag urddas. Ymgorfforodd Noel y gwerthoedd hyn.
Tra roedd ei waith yn ei wneud yn berson arwyddocaol yng Nghymru, ni fu erioed yn fawreddog nac yn ffroenuchel, ac roedd yn gwybod ac yn cydnabod bod pawb sy’n cefnogi Masnach Deg yn gwneud gwahaniaeth, a bod pob pryniant a newidir yn dod â’r byd yn nes at fod yn gyfartal. Rydym eisiau cofio a dathlu bywyd Noel Lloyd. Bydd colled fawr ar ei ôl.