Cyhoeddiad MEACCE

Rhagfyr 6, 2019

Yr wythnos hon, rydym wedi clywed y newyddion trist iawn bod nifer o dirlithriadau wedi bod yn rhanbarth Mbale yn Uganda. Yn anffodus, mae pump o bobl wedi cael eu cadarnhau’n farw ac mae llawer mwy wedi colli eu cartrefi a’u cnwd coffi – eu bywoliaethau. Mae ein meddyliau gyda phawb yn y rhanbarth.

Gall datgoedwigo, erydiad pridd a phatrymau tywydd newidiol oll gyfrannu at dirlithriadau. Mae
Mbale yn Nwyrain Uganda, ardal fryniog fawr sydd wedi’i datgoedwigo’n helaeth yn bennaf yn sgil y
twf mewn amaethyddiaeth a thorri coed oherwydd diogelwch cyfreithiol gwan. Mae’r glaw yn
afreolaidd erbyn hyn, a phan ddônt, mae’r glawiad trwm yn achosi tirlithriadau.

Mae gan Gymru gysylltiadau cryf â ffermwyr coffi mân-ddaliadau, sy’n rhan o Mt Elgon Agroforestry Communities Cooperative Enterprise (MEACCE). Rydym wedi croesawu llawer o gynhyrchwyr
Masnach Deg o Mt Elgon ar draws Cymru dros y 10 mlynedd diwethaf. Yn fwyaf diweddar, daeth
Cadeirydd ac is-gadeirydd y gydweithfa coffi Masnach Deg, Nimrod Wambette a Jenipher Wettaka, i
Gymru ym mis Hydref. Fe wnaethon nhw siarad yng Nghynhadledd Ryngwladol y Trefi Masnach Deg
am effaith y newid yn yr hinsawdd ar eu cymunedau.

Mae’n bwysig ein bod ni’n tynnu sylw at y problemau a achosir gan newid yn yr hinsawdd. Mae’r
materion hyn yn digwydd yn fwy rheolaidd, ac maen nhw’n taro cymunedau gwledig a chymunedau
tlawd galetaf. Nid dyma’r tirlithriad cyntaf i effeithio ar MEACCE, ac nid yw’n debygol o fod yr olaf.

Meddai Nimrod Wambette, Cadeirydd;

‘Mae ffermwyr mân-ddaliadau sy’n byw ar lethrau Mt. Elgon yn cael eu bendithio â phridd
cyfoethog, ffrwythlon, ac amgylchoedd prydferth. Er hyn, nid yw bywoliaeth sefydlog yn syml. Mae
newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ein bywoliaethau. Mae glaw yn dod yn llai dibynadwy, ac mae
cawodydd trwm yn achosi tirlithriadau sydd wedi effeithio ar ein ffermwyr yn ystod yr ychydig
flynyddoedd diwethaf.

Mae Maint Cymru a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi’r rhanbarth hwn trwy Raglen
Plannu Coed Mbale. Mae’r rhaglen wedi cyrraedd y 10 miliynfed carreg filltir o ran coed yn
ddiweddar, ac wedi ymrwymo i’r targed uchelgeisiol o blannu 25 miliwn o goed yn y rhanbarth erbyn
2025.

Sut allwch chi helpu.