Am Bythefnos Masnach Deg 2020 ffantastig

Mawrth 24, 2020

Mae’n amser pryderus a rhyfedd iawn ar hyn o bryd, ond mae’r syniad o Bythefnos Masnach Deg yn rhoi gwên ar ein hwynebau, ac rydym yn gobeithio y bydd yn gwneud i chithau wenu hefyd.

Roeddem wrth ein boddau’n gweld yr holl ddigwyddiadau anhygoel a gynhaliwyd gan grwpiau, ysgolion, eglwysi a busnesau ar draws Cymru. Cafwyd boreau coffi, arddangosfeydd celf, sesiynau blasu cynnyrch Masnach Deg yn y dafarn, a banana split enfawr.

Aeth Cymru Masnach Deg â Jenipher Wettaka Sambazi, cynhyrchydd coffi o Uganda, i ddigwyddiadau, ysgolion ac eglwysi yn y Barri, Sir Fynwy, Bangor ac Ynys Môn. Rhannodd Jenipher eistori gyda dros 300 o bobl am fywyd yn Uganda, sut mae’n tyfu coffi, a sut mae premiymau Masnach Deg yn ei chefnogi hi i rymuso ei hun a menywod eraill yn ei chymuned.

Cynhaliwyd digwyddiad yn y Senedd, lle daeth bron i 30 o Weinidogion y Cynulliad at ei gilydd i
siarad am Fasnach Deg a gyda Jenipher, am gynhyrchu coffi ac am ei bywyd yn Uganda.

Mynychodd mwy na 85 o bobl ein digwyddiad Mae hi’n haeddu Masnach Deg: menywod mewn arweinyddiaeth yng Nghaerdydd, a thrafododd ein panel gwych o fenywod anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, ymgyrchu dros newid a mwy. Roedd lluniaeth Masnach Deg blasus ar gael hefyd, o gwrw,
siocled, coffi, cnau a lolipops cartref o Pop Cycle.

Yn ystod y bythefnos Masnach Deg, parhaodd ein cenhadaeth i godi ymwybyddiaeth ynghylch y
pwysigrwydd o brynu cynnyrch Masnach Deg, er mwyn sicrhau bod pawb ar hyd y gadwyn gyflenwi
yn cael pris teg am y gwaith maen nhw’n ei wneud.

Yn dilyn ymlaen o 2019, fe ganolbwyntiom ar ymgyrchu i incwm byw ddod yn realiti i ffermwyr coco yng Ngorllewin Affrica. Mae ffermwr coco nodweddiadol yn Cote d’ivoire yn byw ar tua 74c y dydd, er bod ffermwr yng Ngorllewin Affrica angen ennill £1.86 bob dydd er mwyn ennill incwm byw.
Tynnodd erthygl a gyhoeddwyd yn y Bythefnos Masnach Deg sylw at y ffaith bod menywod yn aml, yn ennill cyn lleied â 23c.

Mae hyn yn golygu bod bron pob ffermwr coco yn byw mewn tlodi.

Mae’r sefyllfa i fenywod yn waeth fyth. Mae menyows yn gyfrifol am blannu, cynaeaf a chludo’r ffa coco i’r farchnad ac ar ben hynny, am ofalu am blant, cario dŵr, casglu pren, coginio a glanhau ar gyfer y teulu. Dyma pam fod y mudiad Masnach Deg yn canolbwyntio ar fenywod yn ystod y bythefnos, ac ar godi ymwybyddiaeth gyda llawer o’n hymgrychoedd a’n digwyddiadau #shedeserves.

Os nad oeddech chi’n gallu mynychu digwyddiadau, a’ch bod chi’n dal i fod yn awyddus i wybod beth rydym wedi’i wneud, yna gallwch weld ein huchafbwyntiau!

Gallwch weld lluniau o’r Senedd hefyd, ac o’n digwyddiad Mae hi’n Haeddu.

Eisiau cefnogi Masnach Deg o hyd?
1. Prynwch gynnyrch Masnach Deg – gwnewch yn siŵr eich bod chi’n chwilio am y marc Masnach Deg ar gynnyrch, a’ch bod chi’n gwybod eich bod chi’n helpu cymunedau ar draws y byd i fyw bywyd tecach. Mae gennych siopau masnach deg lleolTraidcraft.

2. Cofrestrwch-gallwch gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr misol i gael y newyddion a’r
wybodaeth ddiweddaraf wedi’u hanfon yn syth i’ch mewnflwch.

3. Ymunwch – gallwch ymuno gyda grwpiau Masnach Deg lleol ar draws Cymru, a helpu i hyrwyddo’r
mudiad yn eich cymuned.