Diwrnod Masnach Deg y Byd: Cyfle i gwrdd â Fair Do’s

Mai 9, 2020

Ar Ddiwrnod Masnach Deg eleni (9 Mai), rydym yn canolbwyntio ar weledigaeth Sefydliad Masnach Deg y Byd (WFTO) sef “Masnach Deg y Blaned: Mentrau ar gyfer yr economi newydd” a sgwrsio â Jan Tucker o ‘Fair Do’s’ yng Nghaerdydd, siop sydd wrth wraidd y gymuned yn Nhreganna.

Gwnaeth Fair Do’s symud i’w leoliad presennol ym 1998 ac mae’n ymrwymedig i berthnasoedd cynaliadwy â grwpiau cynhyrchwyr. Maent yn aelodau balch o sefydliadau Masnach Deg lleol ac yn ceisio lleihau eu heffaith amgylcheddol a darparu gwasanaeth personol o’r radd flaenaf i’w cwsmeriaid.

Beth wnaeth i chi ddewis bod yn siop Masnach Deg? 

“Des i’n rhan o’r mudiad Masnach Deg ym 1979 fel un o gynrychiolwyr cyntaf Traidcraft – rhif 008!  Pan symudais i Gaerdydd, gwnes i weithio fel stociwr rhanbarthol Traidcraft i Dde Cymru a phan ddaeth y cynllun hwn i ben roedd yn rhaid gwneud penderfyniad – a ddylwn chwilio am swydd yn gwneud rhywbeth arall neu ystyried agor siop?

Roedd y grŵp o wirfoddolwyr gwych a weithiodd gyda fi wir yn fy annog i agor siop, ac felly fe ddigwyddodd! Dyma oedd y cam naturiol nesaf – i fod yn bresenoldeb (nid stryd fawr) lle byddai siopa Masnach Deg yn derbyn sylw”.

Pam dewis Cymru? 

“Caerdydd oedd fy lleoliad, a gwnaeth ddilyn yn naturiol o gael lleoliad stoc rhanbarthol yn y brifddinas. Daethom yn rhan fawr o’r ymgyrch dros Gaerdydd fel prifddinas Masnach Deg gyntaf y byd. Dilynwyd hyn yn agos gan gymryd rhan yn yr ymgyrch i sicrhau mai Cymru oedd y genedl Masnach Deg gyntaf.

Gwnaeth y siop a’r ymgyrch weithio’n dda gyda’i gilydd. Rydym yn hynod falch ein bod yn byw ac yn gweithio mewn Cenedl Masnach Deg!”

Pa wahaniaeth rydych yn meddwl rydych yn ei wneud i’ch cymuned leol?

“Rydym yn ei wneud yn hawdd i bobl yn ein hardal gael mynediad i amrywiaeth eang o gynnyrch Masnach Deg; cael ffocws sylweddol ar godi ymwybyddiaeth ac ychydig o fisoedd yn ôl, gwnaethom weithio gyda phedair llyfrgell yng Ngorllewin Caerdydd i hyrwyddo Masnach Deg gydag arddangosfeydd a boreau coffi.

Rydym yn cynnal stondinau mewn digwyddiadau cymunedol, yn darparu cyfleoedd gwirfoddoli i bob o bob oedran, yn cynnig gwasanaeth gwerthu neu ddychwelyd i eglwysi, grwpiau cymunedol ac ysgolion i gynnal stondinau Masnach Deg.

Rydym hefyd yn cynnal prosiectau ysgol yn Ne-ddwyrain Cymru ac yn derbyn grwpiau bach o ddisgyblion i ymweld â’r siop am sesiwn addysgol ryngweithiol, ac rydym hefyd yn mynd i ysgolion i gymryd gwasanaeth neu weithdy”.

Sut a pham y byddech yn annog busnesau eraill i fod yn rhan o Fasnach Deg?

“Rwy’n credo bod angen proffil mwy ar Fasnach De gyn ein trefi a’n pentrefi, ac mae siop Masnach Deg yn codi’r proffil, yn ogystal â darparu ffocws ar ymgyrchu dros Fasnach Deg. Rydym wedi bod yn aelod o BAFTS (Cymdeithas Siopau a Chyflenwyr Masnach Deg) ers sawl blwyddyn. Mae’n rhwydwaith cefnogol da a byddai’n werth cysylltu â nhw os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu siop Masnach Deg. Mae BAFTS hefyd yn aelod o’r Sefydliad Masnach Deg, felly mae’n cysylltu siopau Masnach Deg yn y DU â’r ‘teulu’ Masnach Deg byd-eang’”.

Beth yw eich gobaith ar gyfer Masnach Deg yn y dyfodol, yn seiliedig ar y neges “Mae Masnach Deg y Blaned wedi’i phoblogi gan Fentrau Masnach Deg y mae eu cenhadaeth flaenoriaethol yw pobl a’r blaned. Maent yn creu economi sy’n seiliedig ar lesiant dyn a’r blaned, byd lle nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl”?

“Rwy’n gobeithio y bydd y cysylltiad rhwng Masnach Deg a’r newid yn yr hinsawdd yn cael ei gryfhau, gan ddangos bod cyfiawnder cymdeithasol a chyfiawnder amgylcheddol wedi’u cysylltu. Yng Nghymru, mae gennym brosiect coffi hinsawdd a gefnogir, sy’n mewnforio coffi’n uniongyrchol o gydweithfeydd tyfu coffi Masnach Deg yn Wganda i Gymru.

Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys cyfleoedd i bobl yng Nghymru ddysgu mwy am y cysylltiad rhwng ffermio coffi a’r newid yn yr hinsawdd, a galluogi pobl yma i brynu’r coffi gan helpu i gefnogi 3,000 o ffermwyr coffi yn Wganda”.

Gallwch weld Fair Do’s ar Facebook a Twitter