Blog gwadd gan Lillian Matovu-Oladebo – crynodeb.
Gorffennaf 29, 2020Yn fy ngwlad enedigol, Wganda,’ mae bron 80% o’r boblogaeth yn dibynnu ar amaethyddiaeth gynhaliaeth ar gyfer eu bywoliaeth ac mae’n cyfrif am gyfran fawr o’i enillion allforio. Wganda yw’r allforiwr coffi mwyaf yn Affrica.
Yn bersonol, mae ffermio wedi bod wrth wraidd fy magwraeth. Er yr oedd gan fy rhieni yrfaoedd eraill, roedd ffermio ac mae ffermio’n parhau i fod yn ganolog i’w bywydau. Cymaint fel pan wnaethant ymddeol, daethant yn ffermwyr amser llawn. Roeddem yn ddigon ffodus fel plant, nad oedd diffyg bwyd a’n bod yn gallu bwyta amrywiaeth eang o ffrwythau ffres a chynnyrch organig oherwydd eu gwaith caled a’u brwdfrydedd dros ffermio.
Dysgu am Fasnach Deg
Nid nes i mi symud i Gaerdydd y cefais y cyfle i ddysgu a deall mwy am y logo Masnach Deg
a’r hyn y mae’n ei olygu.
Roedd cerdded i mewn i Fair Do’s, a dod ar draws cynnyrch a wnaed neu a dyfwyd â llau gydag enw’r pentref y daethant o wiry n galonogol. Des i ddysgu’n gyflym, fel y brifddinas Masnach Deg gyntaf y byd, roedd cefnogi ac eirioli am brisiau teg ar gyfer allforion a bargen well i ffermwyr tyddynnod bach wrth wraidd nifer o fusnesau a sefydliadau’r brifddinas.
Mae Caerdydd wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf gyda chymuned amlddiwylliannol fawr yr wyf yn falch o fod yn rhan ohoni. Wrth ystyried datblygu, mae gwasgariadau’n chwarae rôl bwysig drwy’r math o gymorth rydym yn ei anfon yn ôl i’n cymunedau gartref gan gynnwys y profiad ymarferol sydd gennym sy’n gallu dylanwadu ar bolisi datblygu.
Galw i Weithredu
Felly sut gall cymuned ddefnyddio ethos a gwerthoedd Masnach Deg yn ein bywydau a’n gwasgariadau? Un o’r pethau cyntaf a symlaf i’w wneud yw gwneud dewis i brynu mwy o gynnyrch Masnach Deg.
Yn ail, beth am adolygu’r cynnyrch sy’n cael eu gwerthu yn eich gweithle a’u dal i gyfrif o ran defnyddio’r ethos Masnach Deg? Ni all unrhyw un ddweud na i mandazis/ puff puff wedi’u creu gan ddefnyddio siwgr a fanila Masnach Deg!
Yn olaf, beth am gymryd cam gweithredu ac ymuno â grŵp Masnach Deg lleol a gweld sut mae Masnach Deg yn cefnogi’r ffermwyr yn ein gwlad enedigol.
Fel yr unigolyn â phrofiad ymarferol, gall eich llais dylanwad fod yr un sy’n darparu’r cysylltiadau i’r cymunedau hyn a chynhyrchu mwy o gynnyrch gall fod ar gael i’r farchnad.
Pa bynnag lwybr rydych yn dewis ei ddilyn, byddwch yn sicr yn gwneud gwahaniaeth. Felly rwy’n eich annog i ymuno â fi wrth gymryd cam cymdeithasol wrth rymuso ein ffermwyr.