Y Diweddaraf ar yr Ymgyrch Nestle

Awst 26, 2020

Diolch am eich cefnogaeth. Gyda’n gilydd, rydym wedi cyflawni peth llwyddiant ac effaith wrth gefnogi cynhyrchwyr coco Masnach Deg sy’n darparu coco i Nestlé, a chodi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch.

Yr hyn sydd wedi digwydd hyd yn hyn…

  • Ym mis Mehefin 2020, cyhoeddodd Nestlé ar ôl degawd na fyddai bellach yn defnyddio coco Masnach deg yn eu siocledi Kit Kat. Yn lle hynny, byddant yn newid i Gynghrair y Goedwig Law fel rhan o’u Cynllun Coco..
  • Gwnaeth y Rhwydwaith Masnach Deg Iforaidd (RICE) siarad ar ran y ffermwyr yr effeithiwyd arnynt, gan godi pryderon am eu bywoliaeth, gan ofyn i Nestlé gadw siocledi Kit Kat yn rhai Masnach Deg.
  • Lansiwyd deiseb gan Joanna Pollard o rwydwaith Masnach Deg Swydd Efrog yn gofyn i Nestlé wyrdroi eu penderfyniad gan #CadwKitKatMasnachDeg. Rydym yn rhan o’r gynghrair sy’n cefnogi’r ddeiseb hon.
  • Gorffennaf: O ganlyniad i’r ddeiseb, dechreuodd Nestlé estyn allan i rwydweithiau amrywiol i ddechrau sgwrs. Roedd hyn yn cynnwys Joanna Pollard a wnaeth ofyn i Nestlé roi rhagor o fanylion am yr isafswm prisiau ac amodau y gallai ffermwyr eu disgwyl.
  • Awst: Yn y diwedd, gwnaeth Nestlé gysylltu â Joanna gyda rhai ffigurau am bremiwm Cynghrair y Goedwig Law ond nid ydynt wedi ymateb o hyd i’r llythyr gan y ffermwyr.
  • Mis Medi: Mae’r Rhwydwaith Masnach Deg Iforïaidd (RICE) wedi creu fideo– rhannwch y fideo.
  • Dydd Iau 1 Hyd – Mae’r ddeiseb yn cael ei chyflwyno i swyddfa Nestlé yn Efrog.  Mae adnoddau ar gael fel posteri, delweddau cyfryngau cymdeithasol a fideo o gerdd Masnach Deg y gallwch ei rhannu ar eich platfformau.

Llwyddiannau

O ganlyniad i’ch ymgyrch, mae 280,000 o bobl wedi llofnodi’r ddeiseb.

Gwnaethom ddefnyddio cyfrif Twitter cyn gôl-geidwad Cymru, Neville Southall a dweud wrth ei ddilynwyr am Fasnach Deg a’r ymgyrch.

Mae AS yng Nghymru, Ruth Jones, Stephen Doughty a Geraint Davies yn rhan o’r Grŵp Seneddol Hollblaid ar gyfer Masnach Deg a wnaeth gwrdd â Nestlé a gofyn iddynt ystyried eu camau gweithredu’n gyhoeddus.

Mae Nestlé bellach wedi cwrdd â’r Rhwydwaith Masnach Deg Iforïaidd ac wedi clywed ei gwestiynau a’i bryderon am ddiffyg eglurder ynghylch taliadau a grym yn y dyfodol.

Cwestiynau Cyffredin

Dyma wybodaeth am yr effaith ar ffermwyr, y Gynghrair Coedwig Law, incwm byw a mwy

https://www.fairtrade.org.uk/media-centre/blog/nestles-kitkat-will-stop-being-fairtrade-faq/

Beth gallwch chi ei wneud nawr?

    • Gofyn cwestiynau i Nestlé gan ddefnyddio’r Cwestiynau Cyffredin – faint o ymreolaeth y bydd ffermwyr yn ei chael dros eu premiymau? Beth yw’r cynllun i ddiogelu bywoliaeth ffermwyr? Pam nad yw Nestlé wedi ymateb i’r llythyr gan y Rhwydwaith Masnach Deg Iforaidd?
    • Rhannwch y fideo hwn a’n helpu i sicrhau bod mwy o bobl yn deall pam mae Masnach Deg mor bwysig i’r ffermwyr hyn.


Cyfeiriad Nestle:

Pencadlys Nestlé UK Ltd (Swyddfa Gofrestredig)

1 City Place

Gatwick

RH6 0PA

United Kingdom

consumer.services@uk.nestle.com

Twitter, Instagram a Facebook.