Mae Cymru Masnach Deg bellach yn aelodau swyddogol o Symudiad Cyfiawnder Masnach y DU
Tachwedd 23, 2020Beth yw’r Symudiad Cyfiawnder Masnach?
Cynghrair y DU o oddeutu chwedeg o sefydliadau cymdeithasol sifil yw’r Symudiad Cyfiawnder Masnach, sy’n cynnwys miliynau o aelodau unigol, yn galw am reolau masnachi sy’n gweithio i bobl a’r blaned. Gyda’n gilydd, rydym yn galw am gyfiawnder masnach, nid masnach rydd, gyda rheolau i sicrhau canlyniadau cynaliadwy i bobl arferol a’r amgylchedd.
Meddai Aileen Burmeister, Cydlynydd Cenedlaethol Masnach Deg Cymru,
‘Mae’r symudiadMasnach Deg yng Nghymru wedi bod yn ymgyrchu dros fasnach decach ers sawl blwyddyn,ac yn aml rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau cyfiawnder
ym mhedwarban byd.Wrth i’r DU ddechrau drafod ei drafodion masnachu ei hunan, nawr yw’r amser cywir i ffurfioli’r berthynas honno. Rydym yn falch ein bod wedi cael ein derbyn fel aelod o’r Symudiad Cyfiawnder Masnach, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n gilydd i ymgyrchu dros system fasnachu decach sy’n fanteisiol o bawb, nid ychydig o bobl.’
Mae egwyddorion Sylfaen y Symudiad Cyfiawnder Masnach yn dangos y manteision y gall masnach eu cael:
‘Rydym yn sefyll dros fasnach. Mae bron pawb yn rhan o fasnach neu’n cael eu heffeithio ganddi. Mae masnach yn ffordd o oresgyn prinder lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, a gall greu cyfleoedd bywoliaeth a chyflogaeth newydd. Felly, gall masnach chwarae rhan bwysig wrth gyfrannu at leihau tlodi a gwella ansawdd ein bywydau.’