Siocled Masnach Deg a Rysáit Cacen Tahini
Ionawr 26, 2021Teisen blasus, fegan a tahini masnach deg am pythefnos masnach deg gan Sarah Philpott.
Cynhwysion
Ar gyfer y teisen
150g siwgwr brown Masnach Deg
150g blawd plaen
50g powdwr coco Masnach Deg
1 llwy de powdwr codi
2 llwy de powdwr codi
400ml llaeth planhigyn
75ml olew rêp a pheth ychwanegol ar gyfer iro
120ml aquafaba (dŵr gwygbys)
3 llwy fwrdd tahini Masnach Def
Ar gyfer y ffrostin
200g siocled tywyll Masnach Deg
2-3 llwy fwrdd powdwr coco Masnach Deg
60ml aquafaba
150g siwgr eisin
50ml llaeth planhigyn
Cynheswch y ffwrn i 160C. Irwch 2 x 20cm tun brechdan gyda bach o’r olew.
Rhowch y blawd, powdwr codi a’r soda pobi mewn i bowlen gymysgu fawr. Ychwanegwch y siwgwr, powdwr coco, aquafaba a’r llaeth a chymysgwch.
Ychwanegwch yr olew a chymysgwch ac yna’r tahini a chymysgwch eto. Rhannwch y cymysgedd rhwng y ddau dun a phobwch am 25 munud tan eu bod wedi codi’n llawn a bod sgiwer wedi ei dodi yng nghanol y teisennau yn dod allan yn lân.
Gadewch i’r teisennau oeri yn y tuniau am 15 munud, yna rhowch ar rac i oeri’n llawn. Tra bod chi’n aros, gwnewch y ffrostin. Toddwch y siocled gyda pheth o’r llaeth, naillai mewn bowlen Pyrex dros sosban o ddŵr berwedig (byddwch yn ofalus!) neu yn y meicrodon a gadewch i oeri am ychydig o funudau. Hidlwch y powdwr coco a’r siwgr eisin mewn i bowlen fawr ac ychwanegwch y siocled a gweddill y llaeth a chymysgwch.
Chwisgiwch yr aquafaba, wedyn plygwch i fewn i’r cymysgedd. Parhewch i gymysgu er mwyn creu ffrostin trwchus. Gosodwch un o’r teisennau ar blât a gorchuddiwch gyda hanner y ffrostin. Gosodwch yr ail deisen ar ben a gorchuddiwch gyda gweddill y ffrostin.
Bydd hwn yn cadw mewn cynhwysydd aerglos am 2-3 diwrnod.