Pythefnos Masnach Deg 2021

Dydd Llun 22nd Chwefror – Dydd Sul 7th Mawrth 2021

Thema yw Cyfiawnder yr Hinsawdd. Bob blwyddyn, mae’r Bythefnos Masnach Deg yn rhoi cyfle i bobl ar draws y DU i ddathlu llwyddiannau Masnach Deg, a dysgu mwy am y gwahaniaeth mae Masnach Deg yn ei wneud.

Cocoa beans

Bydd Pythefnos Masnach Deg 2021 rhwng 22 Chwefror a 7 Mawrth.

Mae wedi bod yn Bythefnos Masnach Deg gwahanol iawn yn 2021, ond yn un da ac rydym yn gobeithio y gwnaethoch ei fwynhau hefyd!

Roeddem yn dwlu gweld y gweithgareddau gwych mewn ystafelloedd dosbarth ac ar-lein ledled Cymru. Roedd cwisiau, bomio edafedd, cystadlaethau ysgolion, bananas hollt, lluniau a mwy!

Y Pythefnos Masnach Deg hwn, gwnaethom ganolbwyntio ar gyfiawnder yr hinsawdd a’r heriau cynyddol y mae’r newid yn yr hinsawdd yn eu rhoi i ffermwyr a gweithwyr yn y cymunedau y mae Masnach Deg yn gweithio gyda nhw.

Mae argyfwng yr hinsawdd yn fygythiad uniongyrchol a chynyddol ac mae’r rheiny sy’n byw mewn gwledydd agored i niwed o ran yr hinsawdd eisoes yn gweld ei effeithiau o sychder a chlefyd cnydau i lifogydd, tonnau gwres a chynaeafau sy’n lleihau.

Digwyddiadau

Bore Coffi Newid yn yr Hinsawdd gyda Jenipher

Gwnaeth Cymru Masnach Deg gynnal Bore Coffi Newid yn yr Hinsawdd gyda Jenipher Wettaka Sambazi, cynhyrchwr coffi o Wganda a Jenipher’s Coffi. Gwnaeth pobl ymuno o Gymru a’r tu hwnt a chawsom wybod mwy am fywyd Jenipher, sut mae’r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ei bywoliaeth a sut mae Masnach Deg yn ei chefnogi.

Mae coffi Jenipher’s Coffi yn cysylltu Wganda â Chymru drwy werthu ei choffi. Gallwch wylio neges fideo Jenipher i ganfod mwy o wybodaeth.

Trafodaeth banel y Cyfiawnder yr Hinsawdd am Fyd Tecach

Gwnaethom hefyd gefnogi Fforwm Masnach Deg Abertawe a Chanolfan yr Amgylchedd gyda’u digwyddiad panel, ‘Cyfiawnder yr Hinsawdd am Fyd Tecach’ a oedd yn cynnwys rhai siaradwyr anhygoel o’r sector gan gynnwys Jane Davidson, Paul Allen, Shenona Mitra, Robin Roth ac Allan Saidi.

Fideo Rysáit

Gwnaeth Sarah Philpott addasu ei Theisen siocled a tahini i rysáit teisen Pythefnos Masnach Deg arbennig gan ddefnyddio cynhwysion Masnach Deg a gwnaethom greu fideo rysáit yn dangos yn union i chi sut i’w bobi. Mae wiry n flasus, rydym yn argymell eich bod yn rhoi cynnig arni.

Ydych chi dal am gefnogi Masnach Deg?

  1. Prynwch nwyddau Masnach Deg – sicrhewch eich bod yn chwilio am y nod Masnach Deg ar gynnyrch gan wybod eich bod yn helpu cymunedau ym mhedwar ban byd i fyw bywyd tecach. Mae yna siopau Masnach Deg lleol a Traidcraft.

  2. Cofrestrwch – Gallwch gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr misol i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

  3. Ymunwch – mae yna grwpiau Masnach Deg lleol y gallwch ymuno â nhw ledled Cymru a helpu i hyrwyddo’r symudiad yn eich cymuned.