Mae Pythefnos Masnach Deg 2021 wedi cyrraedd

Chwefror 22, 2021

Mae’r Pythefnos Masnach Deg hwn (22 Chwefror – 7 Mawrth 2021) yn tynnu sylw at yr heriau cynyddol y mae’r newid yn yr hinsawdd yn eu rhoi i ffermwyr a gweithiwyr yn y cymunedau y mae Masnach Deg yn gweithio gyda hwy.

Mae’r ffeithiau’n syml. Effeithir ar ffermwyr a gweithwyr ar ochr ddeheuol y byd, sydd wedi gwneud y lleiaf i gyfrannu at y newid yn yr hinsawdd, yn anghyfartal. Maent wedi dweud y canlynol:

  • Y newid yn yr hinsawdd un un o’u heriau mwyaf ar hyn o bryd.
  • Mae derbyn prisiau isel am eu cnydau’n golygu eu bod yn ei chael hi’n anodd brwydro yn erbyn hyn.
  • Gyda mwy o arian drwy Fasnach Deg, mae’n yn teimlo fel bod ganddynt fwy o arfau i ddiwallu eu hanghenion beunyddiol a mynd i’r afael â’r heriau y mae’r newid yn yr hinsawdd yn eu rhoi iddynt.

Mae’r rheiny sy’n byw mewn gwledydd sy’n agored i niwed eisoes yn gweld ei effeithiau o sychder ac afiechydon cnydau i lifogydd, tonnau gwres a chynaeafau sy’n lleihau. Mae tlodi parhaus mewn cymunedau ffermio’n ei gwneud hi’n fwyfwy anodd ymdopi ag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.

Eleni, oherwydd y pandemig, bydd Pythefnos Masnach Deg yn cael ei gynnal ar-lein gyda gwefan i ddathlu ac rydym yn cynnal digwyddiadau ar-lein, fel rhai o’n cymunedau ar draws y genedl.

Ymunwch â ni am baned a sgwrs am y newid yn yr hinsawdd gyda neges gan Jenipher, ffermwr coffi o Wganda. Dewch i greu teisen siocled Masnach Deg a tahini gyda fideo rysáit gan Sarah Philpott ac ymuno â’r drafodaeth banel Cyfiawnder yr Hinsawdd a Byd Tecach gyda Fforwm Masnach Deg Abertawe.

Meddai Aileen Burmeister, Cydlynydd Cenedlaethol Masnach Deg Cymru; “Fel arfer, rydym yn dwlu ar ddathlu Pythefnos Masnach Deg gyda digwyddiadau sy’n dod â chymunedau a chefnogwyr ynghyd, ond mae pethau’n wahanol iawn eleni. Fodd bynnag, rydym dal i fod yn falch y gallwn gynnal digwyddiadau ar-lein a bod grwpiau’n dal i allu cyrraedd pobl a chael effaith arnynt.

Yn 2021, mae ffermwr yn wynebu heriau cynyddol. Mae argyfwng yr hinsawdd, y pandemig byd-eang a Brexit i gyd yn cyfrannu ar aflonyddu cadwyni cyflenwi byd-eang. Felly, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi Masnach Deg.

Gallwn i gyd chwarae ein rhan drwy ddewis Masnach Deg i sicrhau bywoliaeth y ffermwyr sy’n gweithio’n ddiflino i roi’r cynnyrch i ni rydym yn eu bwyta bob dydd. Drwy gefnogi Masnach Deg, rydych yn sicrhau bod pobl yn derbyn pris teg, yn cael llais yn eu busnes ac yn gallu darparu ar gyfer eu teuluoedd a’u cymuned”.

Cefnogi Pythefnos Masnach Deg yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru a Hwb Cymru Affrica.