Hwyl Fawr Pythefnos Masnach Deg 2021

Mawrth 15, 2021

Mae wedi bod yn Bythefnos Masnach Deg gwahanol iawn yn 2021, ond yn un da iawn ac rydym yn gobeithio y gwnaethoch chi ei fwynhau hefyd!

Roeddem wedi dwlu ar weld yr holl weithgareddau anhygoel fu’n digwydd mewn ystafelloedd dosbarth ac ar-lein ledled Cymru. Cawsom gwisiau, gwau gwyllt, cystadlaethau ysgol, bananas hollt, lluniadau a llawer mwy!

Gwnaeth Cymru Masnach Deg gynnal Bore Coffi Newid yn yr Hinsawdd gyda Jenipher Wettaka Sambazi, cynhyrchwr coffi o Wganda a Jenipher’s Coffi. Gwnaeth pobl ymuno o Gymru a’r tu hwnt a chawsom wybod mwy am fywyd Jenipher, sut mae’r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ei bywoliaeth a sut mae Masnach Deg yn ei chefnogi. Mae coffi Jenipher’s Coffi yn cysylltu Wganda â Chymru drwy werthu ei choffi. Gallwch wylio neges fideo Jenipher i ganfod mwy o wybodaeth.

Gwnaethom hefyd gefnogi Fforwm Masnach Deg Abertawe a Chanolfan yr Amgylchedd gyda’u digwyddiad panel, ‘Cyfiawnder yr Hinsawdd am Fyd Tecach’ a oedd yn cynnwys rhai siaradwyr anhygoel o’r sector gan gynnwys Jane Davidson, Paul Allen, Shenona Mitra, Robin Roth ac Allan Saidi.

Gwnaeth Sarah Philpott addasu ei Theisen siocled a tahini i rysáit teisen Pythefnos Masnach Deg arbennig gan ddefnyddio cynhwysion Masnach Deg a gwnaethom greu fideo rysáit yn dangos yn union i chi sut i’w bobi. Mae wiry n flasus, rydym yn argymell eich bod yn rhoi cynnig arni.

Y Pythefnos Masnach Deg hwn, gwnaethom, ganolbwyntio ar gyfiawnder yr hinsawdd a’r heriau cynyddol y mae’r newid yn yr hinsawdd yn dod â hwy i ffermwyr a gweithiwyr yn y cymunedau y mae Masnach Deg yn gweithio gyda nhw. Mae argyfwng yr hinsawdd yn fygythiad uniongyrchol a chynyddol ac mae’r rheiny sy’n byw mewn gwledydd sy’n agored i niwed oherwydd yr hinsawdd eisoes yn gweld ei effeithiau o sychder ac afiechydon cnydau i lifogydd, tonnau gwres a chynaeafau sy’n lleihau.

Ydych chi dal am gefnogi Masnach Deg?

  1. Prynwch nwyddau Masnach Deg – sicrhewch eich bod yn chwilio am y nod Masnach Deg ar gynnyrch gan wybod eich bod yn helpu cymunedau ym mhedwar ban byd i fyw bywyd tecach. Mae yna siopau Masnach Deg lleol a Traidcraft.
  2. Cofrestrwch – Gallwch gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr misol i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
  3. Ymunwch – mae yna grwpiau Masnach Deg lleol y gallwch ymuno â nhw ledled Cymru a helpu i hyrwyddo’r symudiad yn eich cymuned.