Pwy wnaeth fy nillad? Dyma Wythnos Chwyldro Ffasiwn 2021

Ebrill 19, 2021

Cynhelir Wythnos Chwyldro Ffasiwn 2021 rhwng 19 a 25 Ebrill a chafodd ei chreu i ddynodi pen-blwydd cwymp y ffatri Rana Plaza, a wnaeth ladd 1,138 o bobl a niweidio llawer mwy 2013. Cyfadeilad ffatri oedd Rana Plaza yn Savar, Bangladesh, a oedd yn gwneud dillad i rai o’r brandiau ffasiwn byd-eang mwyaf. 

Mae’r ymgyrch yn galw am newid systematig yn y diwydiant ffasiwn. Y sector ffasiwn a thecstilau yw un o’r diwydiannau sy’n llygru ac sy’n gwastraffu mwyaf gan gyfrannu at argyfwng yr hinsawdd rydym yn byw ynddo. Mae’r diwydiant yn parhau i fod yn ddiffygiol o ran tryloywder, gydag ecsbloetiad eang pobl sy’n gweithio yn y gadwyn gyflenwi.

Gwnaethom siarad â Natasha Simpson, myfyriwr dylunydd ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymry a Llysgennad y Chwyldro Ffasiwn, sy’n cynnal digwyddiad chwyldro ffasiwn. Mae’n dweud wrthym fwy am ei rôl a sut mae wedi’i newid hi ac wedi effeithio ar ei chynlluniau gyrfa.

“Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio ar fy nghasgliad graddedig sy’n hollol rithwir. Mae gan yr holl ddarnau yn fy nghasgliad thema allweddol o gynaladwyedd a dyluniad ar gyfer hirhoedledd. Rwyf wedi preswylio yn Llundain ac Amsterdam, gan ennill profiad mewn ffasiwn o’r radd flaenaf, uchel ffasiwn a ffasiwn gyflym.
Clywais am Chwyldro Ffasiwn 2018 yn gyntaf pan wnaeth fy narlithydd, Steven Wright, ein hannog i gymryd rôl weithredol ynddo. Dechreuais ymchwilio i’r Chwyldro Ffasiwn a chyflwyno cais i fod yn Llysgennad Chwyldro Ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru. Mae’n rôl y byddaf yn ei gwerthfawrogi am byth ac mae wedi bod yn brofiad anghredadwy.

Nod y digwyddiad yw creu si yn y cyfryngau cymdeithasol a fydd yn annog prynwyr i feddwl am y dillad maent yn eu gwisgo a pha mor aml maent yn prynu. Rwy’n ceisio codi ymwybyddiaeth ar gyfer y Chwyldro Ffasiwn ac rwy’n gobeithio ysbrydoli rhywun i ddod yn Llysgennad Chwyldro Ffasiwn nesaf Prifysgol De Cymru ar ôl i mi raddio eleni.

Mae Wythnos Chwyldro Ffasiwn Prifysgol De Cymru’n llawn rhyngweithgareddau cyfryngau cymdeithasol megis Instagram Lives, cwis a gweithgareddau i’w gwneud o amgylch y campws megis tynnu llun gyda chrys-T enfawr “Who made your clothes?” Prifysgol De Cymru y gwnes i ac Amber Jones, aelod arall ar y cwrs, ei greu yn 2019 ar gyfer yr Wythnos Chwyldro Ffasiwn fel llysgennad swyddogol.

Rwyf wedi bod yn unigolyn sy’n prynu dillad pan fo’u hangen arnaf erioed, ond mare dod yn Llysgennad y Chwyldro Ffasiwn wedi fy ngwneud yn brynwr ymwybodol o ran y brandiau rwy’n eu prynu. Wrth brynu dillad, rwy’n chwilio ar Chwyldro Ffasiwn: Mynegai Tryloywder Ffasiwn  i chwilio am ba frandiau sy’n well o ran tryloywder.

Mae dod yn Llysgennad y Chwyldro Ffasiwn wedi newid llwybr fy ngyrfa go iawn ac rwyf bellach yn ystyried bod yn ymgynghorydd cynaliadwy brandiau mawr i wneud effaith gadarnhaol o’r tu mewn. Mae wedi fy ngalluogi i fod yn fwy hyderus wrth siarad am bethau rwy’n credu ynddynt lle cyn hyn efallai y byddwn wedi cydnabod y newid mae ei angen ond efallai na fyddwn wedi cymryd camau gweithredu yn eu herbyn. Mae angen chwyldro ar y diwydiant ffasiwn ac rwy’n fwy na hapus i ymgymryd â rôl weithredol a helpu i ddatblygu’r chwyldro gyda’r nod o ddal brandiau i gyfrif am eu gweithrediadau.

Unrhyw argymhellion am dorri’n rhydd o’r byd ffasiwn?

Gwnewch ymchwil a chofiwch fel prynwyr bod gennym lawer o bŵer. Os ydych am berchen ar eitemau mwy cynaliadwy, mae angen i chi brynu’r eitemau hynny i annog newid gan frandiau rydych yn dwlu arnynt.

Rwy’n deall yn iawn na all pawb fforddio prynu pob eitem o ddillad yn gynaliadwy ac yn foesegol oherwydd eu bod yn ddrytach fel arfer, ond byddwn yn annog ymchwilio i’r dudalen cynaladwyedd brandiau i weld os ydych yn alinio â’u gwerthoedd.

Ffordd wych arall o siopa yw mewn siopau ail law ac mewn gwerthiannau cilo, lle gallwch ddarganfod trysorau go iawn. Yn olaf, mae angen i ni normaleiddio talu i ddillad gael eu haddasu gan wniadwragedd a chwmnïau diwygio yn lle eu taflu oherwydd nad yw dilledyn yn ffitio’n berffaith. Rydym i gyd yn gwybod am yr anhawster cael pâr o jîns sy’n ffitio!”.

Rhagor o wybodaeth am ddillad, cotwm a thecstilau Masnach Deg.