Gwirfoddoli: Stori Steff
Mehefin 1, 2021Gwirfoddolais yn Hub Cymru Affrica, yn fwy penodol fel rhan o dîm Cymru Masnach Deg, am bron i flwyddyn fel rhan o fy mlwyddyn mewn diwydiant o Brifysgol Caerfaddon.
“Roeddwn yn awyddus i ddod o hyd i leoliad yn y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector yng Nghymru, gan mai dyma lle rwy’n gweld fy hun yn gweithio yn y dyfodol, ac roedd hwn yn gyfle gwych i gael rhywfaint o brofiad gwerth chweil o fewn y sector.
Dewisais wneud cais i wirfoddoli gyda Cymru Masnach Deg, gan fy mod yn credu yn eu nod o greu byd tecach a mwy cynaliadwy.
Yn Cymru Masnach Deg, gwirfoddolais am ddau ddiwrnod yr wythnos o fis Mehefin 2020 tan fis Mai 2021. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cefais gyfleoedd anhygoel i gyfrannu at y sefydliad a’u prosiectau parhaus. Drwy gydol fy amser, roeddwn yn ymwneud yn helaeth â’r broses o ddatblygu gwefan newydd ar gyfer Cymru Masnach Deg.
Roedd hwn yn gyfle gwych i mi weld sut roedd prosiectau mawr yn cael eu rhedeg o fewn y sefydliad, gan fy mod yn cymryd rhan mewn llawer o gyfarfodydd rheolaidd a hyd yn oed wedi cael cyfle i gymryd rhan yn y broses o gyfweld â datblygwyr gwefannau. Cefais gipolwg gwerthfawr ar fyd Masnach Deg hefyd, drwy gymryd rhan mewn ymchwil a gafodd ei ddefnyddio i ysgrifennu copi ar gyfer y wefan newydd.
Y prosiect mawr arall roeddwn yn rhan ohono oedd Pythefnos Masnach Deg 2021. Helpais i gynllunio a rhedeg digwyddiadau, yn ogystal â thrydaru’n fyw o drafodaeth panel.
“Un o’r prif uchafbwyntiau i mi oedd creu graffig i hysbysebu’r Bythefnos Masnach Deg yng nghylchgrawn ‘Bore da’ yr Urdd”.
Roedd rhan fawr o fy ngwaith gwirfoddoli yn ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol.
Ar ôl ychydig fisoedd, cefais y cyfrifoldeb o bostio cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol bob dydd ar gyfer Cymru Masnach Deg. Roedd hwn yn brofiad difyr iawn, a ganiataodd mi i weld sut beth oedd creu a phostio cynnwys ar gyfer y sefydliad.
Cefais y cyfle hefyd, i ysgrifennu cylchlythyrau ar gyfer Cymru Masnach Deg, a defnyddio’r sgiliau roeddwn wedi’u datblygu wrth ysgrifennu cynnwys ar gyfer
y cyfryngau cymdeithasol ar lwyfan gwahanol.
Drwy wirfoddoli gyda Cymru Masnach Deg, rwyf wedi cael y cyfle i gwrdd â nifer o bobl o wahanol sefydliadau, gan gynnwys Fforwm Masnach Deg yr Alban, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Hub Cymru Affrica. Roedd hyn yn ffordd wych i mi ddysgu am y gwaith mae gwahanol sefydliadau yn ei wneud, a rhoi gwell dealltwriaeth i mi o’r trydydd sector yng Nghymru a’r DU.
I mi, roedd hyn yn ddefnyddiol, gan ei fod wedi rhoi gwell syniad i mi am yr hyn yr hoffwn ei wneud pan
fyddaf yn graddio o’r brifysgol.
Cefais amser gwych yn gwirfoddoli gyda Cymru Masnach Deg, ac rwyf wedi dysgu llawer ac wedi cael profiadau gwych.
“Diolch i’r tîm am wneud i mi deimlo mor gartrefol ac am fy nghefnogi drwy gydol fy amser yno. Buaswn yn argymell gwirfoddoli gyda Hub Cymru Affrica yn fawr, mae’n gyfle gwych i gymryd rhan mewn gwaith pwysig ac i ddysgu pethau newydd ar hyd y ffordd”.
Mae gwirfoddoli gyda Hub Cymru Affrica a Cymru Masnach Deg yn ffordd wych o ddysgu pethau newydd a chael cyfleoedd gwych. Buaswn yn ei argymell yn fawr ar gyfer unrhyw bobl ifanc yng Nghymru sy’n awyddus i gael rhywfaint o brofiad yn y trydydd sector”